5 Ffordd Ddiddorol mae Ffiseg yn Ddefnyddiol yn ein Bywyd Bob Dydd

Rydyn ni wedi casglu 5 ffordd ddiddorol mae ffiseg yn ein hamgylchynnu yn ein bywydau bob dydd, yn aml yn gweithio’n dawel yn y cefndir a gwneud ein bywydau’n fwy cyfleus ac effeithiol. Mae Ffiseg ar waith yn ddibaid, yn y ffonau smart sydd yn ein pocedi a’r ceir dyn ni’n eu gyrru. Dyma 5 ffordd mae ffiseg yn llunio’n harferion dyddiol:

 

5 Ffordd Ddiddorol mae Ffiseg yn Ddefnyddiol yn ein Bywyd Bob Dydd


1. Oergelloedd a Chyflyrwyr Aer

Mae’r systemau oeri mewn dyfeisiadau fel oergelloedd a chyflyrwyr aer yn defnyddio nodweddion thermodeinamig. Mae’r dyfeisiadau’n trosglwyddo ynni gwres o’r tu fewn i’r amgylchedd i’r tu allan. Mae’r broses hon yn dibynnu ar gywasgiad ac ehangiad nwyon, sy’n achosu newid gwedd sy’n cymryd y gwres o’r aer. Diolch i’r egwyddorion hyn gallwn fwynhau bwyd wedi’i oeri a thymereddau  cyfforddus tu fewn hyd yn oed ar ddiwrnodau poetha’r haf.

 


2. Poptai Microdon

Mae poptai microdon (neu boptai ping!) yn ddyfais cartref sy’n dibynnu ar ffiseg. Maen nhw’n defnyddio tonnau electromagnetig yn y sbectrwm microdonnau i gynhesu bwyd. Pan fydd microdonnau’n cwrdd â moleciwlau dŵr yn y bwyd, maen nhw’n achosi i’r moleciwlau ddirgrynnu, sy’n trosglwyddo’n ynni gwres ar gyfer coginio. Mae’r defnydd hwn o ymbelydredd elecromagnetig yn un esiampl o sut mae ffiseg yn gwneud ein bywydau bob dydd yn well, gan ddarparu ffordd gyflym ac effeithiol o baratoi bwyd.

 


3. Ffonau Clyfar a Thechnoleg Cyfathrebu

Un o’r esiamplau mwyaf arwyddocaol o ffiseg yn ein bywydau bob dydd yw’r dechnoleg tu ôl i ffonau clyfar. Mae’r teclunnau hyn yn dibynnu ar electromagnetedd, mecanig cwantwm, a ffiseg tonfeddi. Mae technolegau cyfathrebu di-wifr, fel Wi-Fi a Bluetooth, yn trosglwyddo tonnau electromagnetig drwy’r awyr, sy’n galluogi i’n teclunnau gyfathrebu heb wifrau. Yn ogystal, mae sgriniau cyffwrdd yn defnyddio electrostateg i gofnodi mewnbwn- dyma’r gangen o ffiseg sy’n astudio rhyngweithiedd gwefrau trydanol. Heb yr egwyddorion gwyddonol hyn, allai ein ffonau ddim â bod mor glyfar a defnyddiol ac y maent y dyddiau hyn.

 


4. Trafnidiaeth (Ceir, Awyrennau, Trenau)

Wrth yrru car, hedfan mewn awyren neu deithio ar drên, mae ffiseg yn chwarae rhan allweddol mewn trafnidiadeth. Mae system frêcio car yn dibynnu ar ffrithiant i atal symudiad, tra bod yr injan yn gweithredu drwy egwyddorion thermodeinamig, sy’n trosglwyddo ynni cemegol o danwydd i ynni mecanyddol i bweru’r cerbyd.  Mae aerodynamig (cangen o ddeinamig hylifau) yn cael ei ddefnyddio i ddeall sut i leihau llusg a chynhyrchu codiant ar gyfer awyrennau. Mae ffiseg yn sicrhau bod systemau trafnidiaeth yn effeithiol ac yn ddiogel, gan ein helpu ni i fynd o un man i’r llall.

 


5. GPS a Thechnoleg Lloerenni

Yn olaf, mae’r dechnoleg GPS sy’n ein harwain at ein cyrchfannau’n dibynnu ar weithrediad hynod ddiddorol o ddamcaniaethau perthynoledd Einstein. Mae lloerenni GPS yn cylchu’r Ddaear, gan brofi grymoedd disgyrchiant gwahanol a symud ar gyflymderau gwahanol i’r clociau sydd ar y ddaear. Gelwir y broses hon yn ymlediad amser, sy’n achosi i glociau’r lloerenni  symud ar wahanol gyfraddau. Rhaid cyfrifo am y gwahaniaethau hyn mewn amser er mwyn dilyn eu trywydd yn gywir, a dyma beth sy’n gwneud perthynoledd yn allweddol i gywirdeb technoleg GPS.

 

Gall Ffiseg ymddangos fel pwnc haniaethol sy’n gyfyngedig i lyfrau a llyfrau testun, ond mae’n rhan allweddol o’n bywydau bob dydd. O’r rhwydweithiau cyfathrebu sy’n ein cysylltu, i’r systemau trafnidiaeth sy’n ein symud, y bwyd coginiwn ni, a’r dyfeisiau sy’n oeri ein cartrefi, ffiseg yw’r grym sy’n pweru ein byd modern.

Y tro nesaf i chi ddefnyddio eich ffôn clyfar neu oeri eich diod, meddyliwch am eiliad am y ffiseg diddorol sydd ar waith y tu hwnt i’r amlwg.