Pob blwyddyn, symudir dros 400 o fyfyrwyr ymlaen i'r brifysgol. Rydyn ni yma i'ch helpu gyda'r cam hwn, ac mae yna nifer o gyfleoedd ar gael er mwyn eich cynorthwyo i wneud y dewis cywir.

Chweched Isaf

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Dewi Sant, byddwch chi’n derbyn cefnogaeth ynghylch gyrfâu a’r brifysgol. Mae’r hyn yn cynnwys cymorth dilyniant gan eich Tiwtor Bugeiliol, mynediad at gyfleoedd drwy’r Tîm Cyrchfannau, a chefnogaeth gyda’ch cais UCAS tua diwedd y flwyddyn gyntaf. 

Erbyn diwedd eich blwyddyn gyntaf, dylech ddechrau ymchwilio i gyrsiau a phrifysgolion, ymgyfarwyddo eich hun â’r gwefannau a’r adnoddau, a chreu cyfrif UCAS.

Chweched Uchaf

Yn y Chweched Uchaf, dyrannir Mentor Dilyniant i chi. Mae’r aelod staff hwn yn gyfrifol am eich helpu i wneud penderfyniadau am eich dilyniant ac os yw’n berthnasol, gan eich tywys drwy’r broses dderbyn prifysgolion. Byddant yn eich helpu i greu drafftiau o’ch datganiad personol ac yn cefnogi eich cais UCAS ar-lein.

Prifysgolion Grŵp Russell ac Ymddiriedolaeth Sutton

Mae’r prifysgolion Grŵp Russel ac Ymddiriedolaeth Sutton yn cynnwys y Prifysgolion gorau ym Mhrydain. Maent yn ymroddedig i’r lefelau uchaf o ragoriaeth academaidd mewn addysg ac ymchwil. Mae myfyrwyr Coleg Dewi Sant yn ennill llefydd mewn Prifysgolion Grŵp Russel ac Ymddiriedolaeth Sutton yn gyson, gan gynnwys; Coleg Y Brenin Llundain, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerwysg, Coleg y Brifysgol Llundain, ac wrth gwrs, Prifysgol Caerdydd.

Prifysgol yn barod

Casgliad o adnoddau o holl brifysgolion Cymru i’ch helpu i gychwyn gydag addysg uwch, gan y Brifysgol Agored. Gall y rhain eich helpu i ymchwilio, a pharatoi ar gyfer bywyd prifysgol.

 

Noson Dewisiadau’r Dyfodol a Galwedigaethau

Yn y Gwanwyn, mae Coleg Dewi Sant yn cynnal noson wybodaeth i fyfyrwyr a’i rhieni sydd eisiau darganfod mwy am yr amryw o ddewisiadau sydd ar gael ar ôl gadael Coleg Dewi Sant, gan gynnwys cyngor ar UCAS. Mae’r noson yn cyflwyno gwybodaeth ar bopeth o ddatganiadau personol, i gyllid myfyrwyr a phwysigrwydd profiad gwaith. Mae dogfennau hefyd ar gael ar Ardal Rieni ein gwefan, megis Canllaw UCAS i Rieni.

Profiad Gwaith

Trwy gydol y flwyddyn mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cyfnodau profiad gwaith gyda busnesau lleol. Yn ogystal â bod yn gyfle dysgu gwerthfawr a mewnwelediad i fywyd gwaith, mae profiad gwaith yn galluogi myfyrwyr i sefyll allan ar ei datganiadau personol ac ar geisiadau am swyddi. Caiff cyfleoedd amrywiol eu hanfon at fyfyrwyr drwy e-bost.