Cynllun Strategol 2021-2025

Mae Cynllun Strategol 2021-2025 Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant, sef ‘Y Ffordd, y Gwirionedd, a’r Bywyd’, yn amlinellu gweledigaeth y Coleg a’i amcanion allweddol hyd at 2025.

Addasrwydd i Astudio

Mae’r coleg yn disgwyl bod pob dysgwr yn cynnal y disgwyliadau craidd, gan ein galluogi i greu amgylchedd dysgu sy’n ddiogel i bawb. Pan fydd ymddygiad yn disgyn islaw’r disgwyliadau craidd a osodwyd yn ein siarter, bydd y coleg yn rhoi ei weithdrefn ‘addasrwydd i astudio’ ar waith.

Polisi Derbyn a Dilyniant

Mae Datganiad Cenhadaeth y Coleg yn amlinellu blaenoriaethau derbyn y Coleg:
“Coleg Catholig ar gyfer y gymuned, sy’n ceisio darganfod a gwireddu potensial llawn pawb mewn awyrgylch o gariad, gwasanaeth a pharch a symbylwyd gan Grist”.

Polisi Cwynion

Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn ymrwymedig i ddarparu addysg o’r ansawdd orau i’n holl ddysgwyr. Credwn ein bod yn darparu addysg ragorol i bob un o’n dysgwyr, ac mae’r staff yn gweithio’n galed i sefydlu perthnasau cadarnhaol gyda’n dysgwyr, rhieni, a rhanddeiliaid eraill. Serch hynny, mae’r Coleg yn ymroddedig i roi gweithdrefnau ar waith rhag ofn y derbynnir unrhyw gŵyn sy’n ymwneud ag ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gennym. Mae’n bwysig, felly, bod pryderon yn cael eu codi cyn gynted â phosib er mwyn i ni fedru ymdrin â nhw mewn modd amserol.

Polisi TG - Systemau Defnyddwyr

Mae argaeledd cyfleusterau TG i bob aelod o’r Coleg yn ganolog i weithrediad priodol y Coleg. Ystyrir unrhyw gamddefnydd ohonynt fel mater difrifol iawn. Dilynir tystiolaeth o gamddefnydd parhaus dan reolau disgyblaethol. Gall tystiolaeth o ladrata neu ddifrod maleisus arwain at achos cyfreithiol.

Polisi Iaith Gymraeg

Nod y polisi yw sicrhau bod Safonau’r Gymraeg yn cael eu cymhwyso’n llawn yn y coleg a hwyluso gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd yng Ngholeg Catholig Dewi Sant, boed hynny ar gyfer dysgwyr, staff, neu aelodau’r cyhoedd, a hybu ethos dwyieithog.

Polisi Iechyd a Diogelwch

Mae’r polisi hwn yn cynrychioli polisi iechyd a diogelwch y Coleg, ac felly, mae’n disodli pob fersiwn flaenorol ohono. Mae Corff Llywodraethu Coleg Dewi Sant yn cydnabod bod rhaid i iechyd a diogelwch gael eu rheoli’n llwyddiannus ar bob lefel.

Polisi Diogelu

Fframwaith i alluogi i fyfyrwyr wneud cynnydd a chyflawni mewn amgylchedd dysgu cefnogol a diogel.

Polisi Efrydiaeth

Mae’r polisi hwn yn ymwneud ag efrydiaeth, sy’n cynnwys monitro presenoldeb, prydlondeb, ymddygiad, a chwblhad aseiniadau pob myfyriwr. Yn bennaf, noda’r Polisi Efrydiaeth hwn y broses a dilynir mewn achos pan fydd myfyriwr yn mynd yn groes i’n disgwyliadau o’r hyn sy’n cyfrif fel efrydiaeth dda.

Polisi Ysgoloriaeth

Mae’r canlynol yn cynnwys y polisi traws-golegol sy’n ymwneud ag ysgoloriaeth gan gynnwys presenoldeb dysgwyr, prydlondeb, ymddygiad, cwblhau aseiniadau. Mae’r Polisi Ysgoloriaeth yn manylu ar y broses a ddilynwyd os bydd disgwyliadau’r coleg o ran ysgoloriaeth dda yn cael eu torri.

Datganiadau Ariannol 2020-21

Adroddiad a’r Datganiadau Ariannol am y flwyddyn yn gorffen 31 Gorffennaf 2021

Adroddiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg 2021-22

Dyma adroddiad blynyddol 2021-22 Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant, sy’n manylu ar ei gydymffurfiad â’r Safonau Iaith Gymraeg.

Hysbysiad Cydymffurfio – Adran 44 Mesur Y Gymraeg (CYMRU) 2011

Hysbysiad Cydymffurfio – Adran 44 Mesur Y Gymraeg (CYMRU) 2011
Coleg Catholig Dewi Sant- – Dyddiad Dyroddi: 31/03/2021

Polisi Defnydd Mewnol Or Gymraeg

Mae’n ofynnol i ni weithredu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu o fewn y coleg.

Polisi Arian Wrth Gefn a Grant Myfyrwyr