Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn gam delfrydol rhwng ysgol uwchradd a phrifysgol, cyflogaeth neu brentisiaeth,

Wedi’i leoli ar un campws ym Mhen-y-lan, gall dysgwyr fwynhau annibyniaeth a rhyddid, ac mae eu haddysg bellach yn eu dwylo nhw am y tro cyntaf yn eu bywydau.

Mae Coleg Dewi Sant yn adnabyddus am ei berfformiad academaidd, ac mae ond yn derbyn myfyrwyr ro 16 i 19 mlwydd oed. Mae hyn yn galluogi athrawon Coleg Dewi Sant i fod yn benodol ac arbenigol yn eu gwybodaeth o’r hyn sydd ei angen ar y grŵp oedran hwnnw, a chanolbwyntio’n llwyr ar y cwricwlwm sy’n ymwneud â’u pwnc, heb unrhyw ymyrraeth.

Mae gan Goleg Dewi Sant hefyd enw da cryf am ofal bugeiliol. Mae gan bob dysgwr diwtor bugeiliol, sydd yna i arwain a chefnogi dysgwyr yn ystod eu hamser yn y coleg. Mae gan y Coleg hefyd gymorth lles rhagorol yn ogystal ag arweiniad penodol i gyfleoedd gyrfaoedd a chyflogaeth.

Sawl pwnc galla i ei gymryd?

Bydd dysgwyr fel arfer yn cymryd 3 neu 4 pwnc, gyda dros 50 o gyrsiau i ddewis ohonynt. Mae dysgwyr yn astudio Bagloriaeth Cymru, yn ogystal â chwrs arbenigol unwaith yr wythnos o’r enw Myfyrdod Ysbrydol.


A oes rhaid i mi fod yn Gatholig i astudio yng Ngholeg Dewi Sant?

Nac oes.

Mae gan Goleg Dewi Sant gorff myfyrwyr mwyaf amrywiol unrhyw Goleg yng Nghymru. Cenhadaeth Coleg Dewi Sant yw bod yn goleg sy’n gwasanaethu ei gymuned, ac mae’r gymuned honno’n cynnwys pawb. Yn 2022-23 roedd gan Goleg Dewi Sant ddysgwyr o dros 50 diwylliant a gwlad gwahanol.

A oes rhaid i mi dalu i fynd i Goleg Dewi Sant?

Nac oes.

Nid oed unrhyw ffioedd i ymuno â Choleg Dewi Sant, ac nid oes angen i chi dalu i gofrestru.

Mae’r unig ffi sy’n berthnasol ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio cwrs iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae angen gwiriad DBS fel rhan o’r cwrs.


Sut ydw i’n gwybod y pynciau cywir?

Byddwn yn trafod pynciau gyda chi yn ystod sesiwn arweiniad. Ar ôl ymgeisio, gwahoddir pob dysgwr i’r Coleg i siarad ag athro am y pynciau y maent am eu cymryd, y gyrfaoedd y maent am eu dilyn, a’r hyn y maent yn angerddol yn ei gylch.

A oes gwisg ysgol?

Nac oes. Mae gan fyfyrwyr y rhyddid i wisgo’r dillad y maent eu heisiau, o fewn gwyleidd-dra. Rydym yn gofyn bod pob dysgwr yn tynnu hetiau a chyflau ar y campws, a rhaid gwisgo bathodynnau ID bob amser.


A fydda i yn y coleg trwy’r dydd?

Fel arfer bydd gan ddysgwyr 1 wers rydd y dydd. Os yw’r wers hon peth cyntaf yn y bore, nid oes angen i chi ddod i’r coleg tan eich gwers gyntaf. Yn yr un modd, os yw’ch gwers rydd ar ddiwedd y dydd, gallwch fynd adref yn gynt.

Nid oes cofrestru yn y bore, a chymerir presenoldeb ym mhob gwers. Os byddwch yn colli gwersi, byddwn yn cysylltu â chi neu riant.