Beth yw’r Rhaglen Anrhydedd?

Mewn ymgais i ddarparu ar gyfer anghenion unigol ein myfyrwyr, rydym wedi sefydlu rhaglen unigryw sydd wedi’i llunio ar gyfer myfyrwyr sydd yn dangos dawn academaidd.

Bydd y myfyrwyr yma yn dangos diddordeb yn yr hyn sydd yn mynd ymlaen tu hwnt i ffiniau’r ystafell dosbarth, ac eisiau archwilio i’r fath cwestiynau fydd yn ehangu eu golwg ar y byd a gwella’r gallu i gymryd rhan mewn trafodaethau academaidd.

Mae’r Rhaglen Anrhydedd wedi gweld nifer o’i myfyrwyr yn symud ymlaen i astudio graddau yn rhai o brifysgolion blaengar y Deyrnas Unedig, gan astudio amrywiaeth o gyrsiau o Addysg i Sŵoleg. Mae ein record dros y blynyddoedd o gynorthwyo ein myfyrwyr i gyflawni eu llawn botensial wedi’i adnabod a’i chanmol gan Brifysgolion, arolygwyr, rhieni a myfyrwyr.

Mae ceisiadau ar gyfer 2023/24 bellach wedi cau.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y Rhaglen Anrhydedd?

Dyluniwyd y Rhaglen Anrhydeddau ar gyfer dysgwyr mwy galluog a thalentog. O’r herwydd, mae meini prawf mynediad academaidd uchel. Fel arfer mae disgwyl i fyfyrwyr gael proffil gradd benodol – yn cael eu rhyddhau cyn y bydd ceisiadau yn agor ar gyfer Medi 2023.

Gellir ystyried a chynnig cyd-destunol i ddysgwyr o gefndiroedd sydd ar y cyfan yn llai tebygol o gael mynediad i’r Rhaglen Anrhydeddau neu i ymgeiswyr ag amgylchiadau allwthiol.