Mae Coleg Dewi Sant yn cynnig cyfle i chwaraewyr pêl-fasged i fod y gorau ar y cwrt, yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth.
Gall pob myfyriwr ymgeisio i fod yn yr Academi, p’un a ydynt yn astudio chwaraeon fel pwnc ai peidio. Golyga hyn nad oes yn rhaid i chi gyfaddawdu ar eich nodau gyrfaol na’ch llwybr pêl-fasged.
Mae gan chwaraewyr yr academi fynediad at amserlen hyfforddi brysur, cefnogaeth cryfder a chyflyru, a mynediad helaeth at y cwrt, gyda Phennaeth Pêl-fasged a Chapten Cymru James Dawe yn goruchwylio tîm o hyfforddwyr dynion a merched lefel uchel.
Mae Coleg Dewi Sant yn cystadlu yn y Gyngrair 1 AOC Sports Southwest gystadeuol, yn erbyn colegau yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Academi’n partneru ag Archers Prifysgol Metropolitan Caerdydd, gan roi’r cyfle i chwaraewyr symud ymlaen i Bêl-fasged Cymru a Phrydain lefel uchel.
