Dylai’r wybodaeth isod helpu chi ddehongli’r data a gynnwysir yn Adroddiad Cynnydd eich mab/merch, a’r data yn y Porth Rheini (ar eILP).

Presenoldeb

Caiff presenoldeb ei gyflwyno ar ffurf ganran. Awgryma’r dystiolaeth mai cael presenoldeb da yw’r ffordd orau o hwyluso llwyddiant myfyrwyr yn y Chweched Dosbarth. Mae’r ymchwil yn dangos bod cwymp o 10% mewn presenoldeb yn gallu arwain at dangyflawni mewn cwrs. Dylai pob dysgwr ymdrechu am bresenoldeb llawn (100%) gan yr ystyrir presenoldeb sy’n llai na 95% yn annerbyniol.

Graddau ar sail Cyrhaeddiad

Dylai’r graddau hyn adlewyrchu perfformiad cyffredinol y dysgwr, ar sail pob asesiad a gyflawnwyd hyd yma, ym mhob cwrs. Mae’r graddau cyrhaeddiad ym mhob cwrs yn efelychu’r meini prawf graddio a ddefnyddir gan y Byrddau Arholi e.e.  CBAC, BTEC, ac ati:

  • Lefel UG: graddau A-E (gyda ‘U’ yn dynodi gradd ‘Annosbarthedig’)
  • Safon Uwch: graddau A*-E (gyda ‘U’ yn dynodi gradd ‘Annosbarthedig’)
  • Cyrsiau BTEC Lefel 2 a 3: Llwyddiant, Teilyngdod, Rhagoriaeth, *Rhagoriaeth; a
  • Cyrsiau TGAU A*-G (gyda ‘U’ yn dynodi gradd ‘Annosbarthedig’).

Graddau Ymgysylltu

Mae graddau ymgysylltu’r myfyrwyr yn fesur o’u cyfraniad yn ystod gwersi pynciol. Mae ‘graddau ymgysylltu’, felly, yn raddau ‘byw’ y gellir eu diweddaru trwy gydol cyfnod asesu, a chânt eu defnyddio gan diwtoriaid i osod targedau ar gyfer gwella, sy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu eu hagwedd tuag at ddysgu (e.e., ein disgwyliadau o sut y dylai myfyrwyr fynd ati i astudio).

Gweld y Meini Prawf

Graddau Targed

Darperir y rhain i fyfyrwyr 6ed Uchaf, ac fe’u rhoddir i fyfyrwyr 6ed isaf ar sail eu perfformiad.

Nifer yr asesiadau

Mae hyn yn ymwneud â’r nifer o asesiadau a gynhelir bob hanner tymor. Ym mhob cwrs UG/Uwch a TGAU, dylech gwblhau o leiaf 2 asesiad ‘pwysig’ bob hanner tymor. Caiff y rhain eu marcio a’u recordio ar yr eILP. Ar gyfer cyrsiau BTEC, dylai un o’r asesiadau hyn gael eu cofnodi ar yr eILP.

Dylai’r asesiad ‘pwysig’ adlewyrchu gofynion allanol y cwrs.  Dylai’r asesiadau ‘pwysicaf’ ym mhob cwrs UG/Uwch fod ar ffurf gwestiynau sy’n deillio o gyn-bapurau arholiad, er enghraifft, traethodau neu gwestiynau sy’n gofyn am ymateb estynedig. Mae’n debygol y bydd yr asesiadau BTEC yn fwy amrywiol, gan gynnwys cyflwyniadau, adroddiadau ffurfiol, a.y.b.