Cyrsiau UG/Safon Uwch

Er mwyn astudio cyrsiau UG/Safon Uwch yng Ngholeg Dewi Sant, bydd angen i chi gael o leiaf 6 TGAU ar radd C neu’n uwch.

Mae’n bwysig nodi bod yna ofynion mynediad ar gyfer pynciau penodol hefyd. Felly, bydd meini prawf mynediad ar gyfer pob pwnc rydych chi’n dymuno ei astudio, er enghraifft, ar gyfer Seicoleg fydd angen i chi gael o leiaf gradd B mewn TGAU Gwyddoniaeth neu radd C mewn TGAU Mathemateg. Gallwch wirio’r meini prawf mynediad ar gyfer pob pwnc drwy bori trwy’r pynciau ar ein gwefan, gan sgrolio i lawr i’r Adran ‘Gofynion Mynediad Penodol’ ar y dudalen.

Cyrsiau BTEC

Er mwyn astudio cyrsiau BTEC yng Ngholeg Dewi Sant, bydd angen i chi gael o leiaf 5 TGAU ar radd C neu’n uwch.

 

Cyrsiau Lefel 2

Mae gennym nifer gyfyngedig o gyrsiau BTEC Lefel 2, ac rydym yn cynnig TGAU Saesneg, Mathemateg, a Gwyddoniaeth i’r myfyrwyr sydd heb gyflawni’r meini prawf mynediad ar gyfer Lefel 3.