Un o amcanion Coleg Dewi Sant yw darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu’u sgiliau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, yn enwedig sgiliau a fydd o fudd ar gyfer eu ceisiadau i’r brifysgol a chyflogaeth; nod y Wobr Dug Caeredin yw magu blaengaredd, hunangred, a sgiliau datrys problemau sydd ynghlwm wrthi drwy amryw o heriau.
Trefnir sawl gweithgaredd grŵp, megis gweithgareddau codi arian, er mwyn mireinio eich sgiliau gwaith tîm ac arweinyddiaeth, a magu hyder, gyda’r rhain oll yn arwain at uchafbwynt y Rhaglen, sef yr Alldaith, lle byddwch yn treulio’ch amser wrthi’n defnyddio’r sgiliau ymarferol a ddysgoch, allan yn yr awyr agored.
Mae’r Wobr wedi’i chydnabod gan gyflogwyr a phrifysgolion eang am y sgiliau gydol oes y mae’n ei darparu i fyfyrwyr, a’r ymdeimlad cynnes o foddhad a ddaw wrth iddynt gwblhau’r her gyffrous hon.
Mae Coleg Dewi Sant yn ganolfan Wobr Dug Caeredin drwyddedig, sy’n cynnig y Wobr Arian a’r Wobr Aur i fyfyrwyr, naill ai o’r cychwyn neu fel parhad o’r wobr a ddechreuwyd eisoes mewn canolfan arall.
Sut ydw i’n cofrestru ar gyfer y Wobr?
Gallwch gorfrestru ar gyfer Gwobr Dug Caeredin drwy gysylltu a Mr Price – mprice@stdavidscollege.ac.uk yn Nhymor yr Hydref. Ceir hefyd gyfle i chi gofrestru yn ystod ein Ffair y Glas blynyddol, a chyfleoedd i gofrestru drwy’ch cyfrif e-bost coleg.
