O dan rai amgylchiadau, gall myfyrwyr wneud cais i dderbyn prydau ysgol am ddim.

Sut mae’n gweithio?

 

Bydd myfyrwyr yn cael prydau ysgol am ddim os yw eu teulu yn derbyn:

  • Cymorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Gysylltiedig ag Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Elfen Gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credydd Treth Plant gydag Incwm o lai na £16,190
  • Credydd Cynhwysol os yw enillion net y cartref yn llai na £7,400

Unrhyw Gwestiynau?

Cliciwch yma

 

Caiff pob dogfen sy’n ymwneud â cheisiadau am grant neu gymorth ariannol ei chyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg. Gall pob ymgeisydd gyflwyno ei gais yn Gymraeg ac ni thrinnir ceisiadau o’r fath yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Os oes angen cyfweld ag ymgeisydd fel rhan o’r broses ymgeisio am grant neu gymorth ariannol, gellir cynnal y cyfweliad hwnnw’n Gymraeg, trwy ddefnyddio cyfieithu ar y pryd pan fo angen. Pan gaiff cais am grant neu gymorth ariannol ei gyflwyno’n Gymraeg, byddwn yn hysbysu’r ymgeisydd hwnnw am ganlyniad ei gais yn Gymraeg.

Pan fyddwn yn gwneud penderfyniad o ran rhoi grant neu gymorth ariannol, byddwn yn cymryd i ystyriaeth yr effaith ar y rheini sy’n siarad Cymraeg, gan sicrhau na effeithir y penderfyniad hwnnw’n andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Pan roddir penderfyniad ar waith (er enghraifft, trwy orfodi unrhyw amodau), gwnawn hynny mewn modd sy’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i ymgeiswyr ddefnyddio’r Gymraeg.