Cronfa Llywodraeth Cymru yw’r FCF i’w defnyddio i gefnogi myfyrwyr yn ariannol yn ystod eu hamser yng Ngholeg Catholig Dewi Sant.

Beth yw FCF?

 

Cronfa Llywodraeth Cymru yw’r FCF i’w defnyddio i gefnogi myfyrwyr yn ariannol yn ystod eu hamser yng Ngholeg Catholig Dewi Sant.

Mae’n dibynnu ar brawf modd incwm aelwyd o hyd at £29,999

Ydw i’n Gymwys?

 

Os ydych yn derbyn LCA rydych chi’n gymwys yn awtomatig, er bod yn rhaid i chi wneud cais o hyd.

I dderbyn unrhyw gymorth drwy FCF, rhaid i chi lenwi’r ffurflen gais (Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn gysylltiedig â’r cais LCA, mae unrhyw arian a ddarperir yn gwbl ar wahân i LCA).

Gwobr yn ôl disgresiwn yw’r gronfa sy’n galluogi’r Coleg eich cynorthwyo gyda chyfraniad tuag at:

  • Teithio
  • Costau anabledd
  • Offer cwrs hanfodol
  • Ymweliadau addysgol hanfodol
  • Prydau â chymhorthdal o safleoedd arlwyo’r Coleg
  • Ffioedd arholiad
  • Costau gofal plant
  • Costau llety neu fyw ar gyfer myfyrwyr sy’n byw’n annibynnol

Os ydych yn profi anawsterau ariannol a bod eich amgylchiadau’n newid a allai effeithio eich presenoldeb yn y Coleg, gall yr FCF gynnig cymorth pellach.

Cyn gwneud cais, darllenwch y canlynol:

Nodiadau Canllawiau

Unrhyw Gwestiynau?

Cliciwch yma

 

Caiff pob dogfen sy’n ymwneud â cheisiadau am grant neu gymorth ariannol ei chyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg. Gall pob ymgeisydd gyflwyno ei gais yn Gymraeg ac ni thrinnir ceisiadau o’r fath yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Os oes angen cyfweld ag ymgeisydd fel rhan o’r broses ymgeisio am grant neu gymorth ariannol, gellir cynnal y cyfweliad hwnnw’n Gymraeg, trwy ddefnyddio cyfieithu ar y pryd pan fo angen. Pan gaiff cais am grant neu gymorth ariannol ei gyflwyno’n Gymraeg, byddwn yn hysbysu’r ymgeisydd hwnnw am ganlyniad ei gais yn Gymraeg.

Pan fyddwn yn gwneud penderfyniad o ran rhoi grant neu gymorth ariannol, byddwn yn cymryd i ystyriaeth yr effaith ar y rheini sy’n siarad Cymraeg, gan sicrhau na effeithir y penderfyniad hwnnw’n andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Pan roddir penderfyniad ar waith (er enghraifft, trwy orfodi unrhyw amodau), gwnawn hynny mewn modd sy’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i ymgeiswyr ddefnyddio’r Gymraeg.