Defnyddiwch y dolenni isod i gael mynediad at wybodaeth ychwanegol am Goleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant a'n cynlluniau ar gyfer cyfoethogi'r profiad dysgu i'n holl fyfyrwyr.

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol

 

Mae Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant yn ymdrechu i sefydlu a chynnal cymuned sy’n tystiolaethu gwerthoedd a chred Cristnogol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag urddas dynol a lles pawb. Rydym wedi ymrwymo i addysg y person cyflawn; gan werthfawrogi a dathlu unigrywiaeth pob unigolyn. Rydym am i’n myfyrwyr gyrraedd eu llawn potensial; potensial a roddir iddynt gan Dduw.

Coleg Noddfa

 

Cenhadaeth graidd Coleg Dewi Sant yw gwasanaethu’r gymuned. Bob blwyddyn, mae gan Goleg Dewi Sant fyfyrwyr o tua 50 o wahanol genhedloedd. Mae’r gymuned amrywiol a chyfoethog hon yn ychwanegu gwerth i bawb, wrth i ni ddysgu am ein gwahanol ddiwylliannau a chefndiroedd, gan brofi ein bod i gyd yn wahanol, ac rydym i gyd gyda’n gilydd.

Gweld ein polisïau