Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn daliad wythnosol o £40 i helpu pobl ifanc 16-18 oed gyda chostau addysg bellach.

Mae ceisiadau LCA ar agor

 

Dylech wneud cais ar-lein drwy greu cyfrif neu fewngofnodi, os ydych wedi creu un yn barod. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd. Defnyddiwch y ddolen hon.

Os na allwch wneud cais ar-lein, bydd angen i chi lenwi ffurflen bapur yn lle hynny.

Mae nodiadau canllaw i’ch helpu i lenwi’r ffurflen.

Beth yw LCA?

 

Taliad wythnosol o £30 i helpu gyda chostau Addysg Bellach (16-18 oed) yw Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA). Darperir y taliadau i chi bob pythefnos, cyhyd â’ch bod yn cwrdd â gofynion presenoldeb, perfformiad, ac ymddygiad eich ysgol neu goleg.

I wybod mwy am LCA, cliciwch yma am y Llyfr Bach LCA

Nodiadau Cyfarwyddyd

 

Defnyddiwch y ddogfen ‘Nodiadau Cyfarwyddyd’ isod wrth gwblhau’r ffurflen gais.

Dyddiadau Talu LCA

 

 

Unrhyw Gwestiynau?

Cliciwch yma

 

Caiff pob dogfen sy’n ymwneud â cheisiadau am grant neu gymorth ariannol ei chyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg. Gall pob ymgeisydd gyflwyno ei gais yn Gymraeg ac ni thrinnir ceisiadau o’r fath yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Os oes angen cyfweld ag ymgeisydd fel rhan o’r broses ymgeisio am grant neu gymorth ariannol, gellir cynnal y cyfweliad hwnnw’n Gymraeg, trwy ddefnyddio cyfieithu ar y pryd pan fo angen. Pan gaiff cais am grant neu gymorth ariannol ei gyflwyno’n Gymraeg, byddwn yn hysbysu’r ymgeisydd hwnnw am ganlyniad ei gais yn Gymraeg.

Pan fyddwn yn gwneud penderfyniad o ran rhoi grant neu gymorth ariannol, byddwn yn cymryd i ystyriaeth yr effaith ar y rheini sy’n siarad Cymraeg, gan sicrhau na effeithir y penderfyniad hwnnw’n andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Pan roddir penderfyniad ar waith (er enghraifft, trwy orfodi unrhyw amodau), gwnawn hynny mewn modd sy’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar gyfleoedd i ymgeiswyr ddefnyddio’r Gymraeg.