Y Rhaglen Anrhydedd

Mewn ymgais i ddarparu ar gyfer anghenion unigol ein myfyrwyr, rydym wedi sefydlu rhaglen unigryw sydd wedi’i llunio ar gyfer myfyrwyr sydd yn dangos dawn academaidd.

Bydd y myfyrwyr yma yn dangos diddordeb yn yr hyn sydd yn mynd ymlaen tu hwnt i ffiniau’r ystafell dosbarth, ac eisiau archwilio i’r fath cwestiynau fydd yn ehangu eu golwg ar y byd a gwella’r gallu i gymryd rhan mewn trafodaethau academaidd.

Academi Bêl-droed Y Saint

Prif nod yr Academi yw cynhyrchu chwaraewyr o’r radd flaenaf a chynyddu nifer y chwaraewyr sy’n cael eu galw am dreialon yng nghlybiau’r Uwch Gynghrair a Thimau Ysgolion a Cholegau Cymru.

Fel aelod o Academi Bêl-droed Coleg Dewi Sant byddwch yn gweithio gyda thîm o hyfforddwyr sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel ac yn rhai sy’n uchel eu parch. Bydd gennych fynediad at sesiynau hyfforddi 2 x 90 munud a rhaglen helaeth o gemau pob wythnos yn ystod y tymor, ynghyd â mynediad at gyfleusterau hyfforddi chwaraeon elit yn Arena ‘Ocean Park’.

Pêl-fasged yng Ngholeg Dewi Sant

Mae Pêl-fasged Coleg Dewi Sant yn eich galluogi i gydbwyso’ch llwybr addysg a phêl-fasged i fod y gorau yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal ag yn y llys.

Mae gan academi pêl-fasged Dewi Sant raglen i ddynion a menywod, y ddau yn cystadlu yng nghynghreiriau a chwpanau AoC, yn ogystal â thwrnameintiau Pêl-fasged Cymru.

Gwobr Dug Caeredin

Un o amcanion Coleg Dewi Sant yw darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu’u sgiliau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, yn enwedig sgiliau a fydd o fudd ar gyfer eu ceisiadau i’r brifysgol a chyflogaeth; nod y Wobr Dug Caeredin yw magu blaengaredd, hunangred, a sgiliau datrys problemau ymhlith y rhai sydd ynghlwm â’r Wobr drwy amryw o heriau.