Drwy gydol eich bywyd byddwch yn wynebu nifer o heriau. Bydd angen i chi ddatblygu’r sgiliau cymdeithasol ac emosiynol i wynebu’r heriau hyn. Bydd y Rhaglen Myfyrdod Bugeiliol nid yn unig yn eich dysgu am rai o’r materion y byddwch yn eu hwynebu, ond hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wynebu heriau newydd ac annisgwyl yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae’r Rhaglen Fugeiliol yn canolbwyntio ar bum sgil:

Hunanreoli – Rheoli emosiynau ac ymddygiadau i gyflawni’ch nodau.

Hunan-ymwybyddiaeth – Cydnabod eich emosiynau a’ch gwerthoedd, yn ogystal â’ch cryfderau a’ch heriau.

Ymwybyddiaeth gymdeithasol-Dangos dealltwriaeth ac empathi tuag at eraill.

Sgiliau perthynas – Ffurfio perthnasoedd cadarnhaol, gweithio mewn timau, delio’n effeithiol â gwrthdaro.

Gwneud penderfyniadau cyfrifol – Gwneud dewisiadau moesegol, adeiladol am ymddygiad personol a chymdeithasol.

Cynhelir gwersi Myfyrdod Bugeiliol unwaith yr wythnos gyda Thiwtor Bugeiliol a fydd hefyd yn darparu mentora, hyfforddiant a chefnogaeth i chi yn ystod y flwyddyn yng Ngholeg Dewi Sant.

Y Rhaglen Anrhydedd

Beth yw’r Rhaglen Anrhydedd? Mewn ymgais i ddarparu ar gyfer anghenion unigol ein myfyrwyr, rydym wedi sefydlu rhaglen unigryw sydd wedi’i llunio ar gyfer myfyrwyr sydd yn dangos dawn academaidd. Bydd y myfyrwyr yma yn dangos diddordeb yn yr hyn...