Mae pob myfyriwr safon uwch yn astudio Bagloriaeth Cymru.

Ar Lefel 3, mae’r Fagloriaeth yn cael ei graddio o A* – E ar Lefel UG/Safon Uwch, ac mae’n gyfwerth â hyd at 56 o bwyntiau UCAS. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn pedwar her dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae’r heriau’n cynnwys Her Menter a Chyflogadwyedd, Her Dinasyddiaeth Fyd-eang, Her y Gymuned, a’r Prosiect Unigol.

Her y Gymuned

Bydd Her y Gymuned yn rhoi’r cyfle i’r dysgwyr ddewis gweithgaredd o blith un o’r themâu canlynol yn ymwneud â’r gymuned:

  • Cymdeithasol/lles
  • Gwella’r gymdogaeth
  • Hyfforddi

Bydd y dysgwyr yn cynllunio ac yn trefnu’r gweithgaredd naill ai fel unigolyn neu mewn tîm (yn cynnwys rhwng 3 a 6 o aelodau). Wedyn, rhaid treulio 30 awr yn ymgymryd â’r gweithgaredd yn uniongyrchol gyda’r gymuned leol neu yn y gymuned leol. Ar ôl cwblhau’r Her rhaid i’r dysgwr fyfyrio ar ei effeithiolrwydd personol.

Diben Her y Gymuned yw meithrin sgiliau’r dysgwyr, tra’n annog y dysgwyr i nodi, datblygu a chymryd rhan mewn cyfleoedd a fydd o fudd i’r gymuned leol. Fel rhan o Her y Gymuned, bydd y dysgwyr yn meithrin sgiliau penodol ym maes Cynllunio a Threfnu ac Effeithiolrwydd Personol ac yn eu defnyddio mewn modd priodol.

Yn y byd sydd ohoni, mae angen i’r dysgwyr fod yn ymwybodol o’r heriau a’r cyfleoedd y byddant o bosibl yn dod ar eu traws ar lefel bersonol yn eu cymuned leol: yr ysgol, yr ardal leol, y pentref, tref neu ddinas agosaf. Bydd y dysgwyr yn canolbwyntio ar bryderon ac anghenion go iawn drwy weithgareddau sy’n anelu at wneud gwahaniaeth yn y gymuned. Dylai Her y Gymuned gynnig profiadau sy’n helpu pobl ifanc i ddeall ystyr bod yn ddinesydd gweithgar. Dylai’r her eu galluogi i ddatblygu fel aelodau effeithiol a chyfrifol o’u cymuned leol.

Her Menter a Chyflogadwyedd

Mae’r Her Menter a Chyflogadwyedd yn gofyn iddyn nhw ddatblygu syniad a chynnig busnes, gan enghreifftio’r cynigion terfynol fel arddangosfa weledol a’u cyflwyno gerbron panel. 

Diben yr Her Menter a Chyflogadwyedd yw meithrin sgiliau dysgwyr, tra’n darparu cyfleoedd i’r dysgwyr feithrin sgiliau a phriodoleddau mentrus a gwella cyflogadwyedd. Fel rhan o’r Her Menter a Chyflogadwyedd, bydd y dysgwyr yn meithrin sgiliau penodol ym maes Llythrennedd Ddigidol, Creadigedd ac Arloesi ac Effeithiolrwydd Personol ac yn eu cymhwyso mewn modd priodol.

Yn y byd sydd ohoni, bydd yn ddymunol i’r dysgwr feithrin ffordd fentrus o feddwl a all wella ei ragolygon gyrfa. Fel rhan o’r Her hon, caiff y dysgwyr y cyfle i greu syniadau arloesol yn seiliedig ar ddiwallu anghenion cwsmeriaid a/neu fusnesau drwy ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth ac i roi’r syniadau hynny ar waith. Gellir cyflawni hyn a’i wella drwy ddilyn proses fenter sy’n cynnwys cysylltu â chyflogwyr a rhyngweithio ag entrepreneuriaid lleol llwyddiannus. Bydd yr her hon yn gwella cyflogadwyedd drwy alluogi’r dysgwyr i ganolbwyntio mwy ar gyfleoedd, i fod yn fwy hunanymwybodol ac yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd busnes.

Her Dinasyddiaeth Fyd-Eang

Mae’r Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yn ei gwneud yn ofynnol i’r dysgwyr ymateb i fater byd-eang drwy godi ymwybyddiaeth o’r mater i gynulleidfa benodol mewn modd creadigol ac arloesol.

Diben yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yw meithrin sgiliau dysgwyr, tra’n darparu cyfleoedd iddyn nhw ddeall materion byd-eang ac ymateb yn briodol iddyn nhw. Fel rhan o’r Her Dinasyddiaeth Fyd-eang, bydd y dysgwyr yn meithrin sgiliau penodol ym maes Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau a Chreadigedd ac Arloesi ac yn eu defnyddio mewn modd priodol.

Mae dinasyddion byd-eang yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau fel dinasyddion Cymru a’r byd ehangach. Mae ganddynt ddiddordeb mewn materion byd-eang, brwdfrydedd amdanynt a dealltwriaeth ohonynt. Mae dinesydd byd-eang yn parchu ac yn gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth, goddefgarwch a chynaliadwyedd.

Prosiect Unigol

Diben y Project Unigol yw meithrin sgiliau dysgwyr, drwy ymgymryd â gweithgaredd ymchwil mewn maes sydd o ddiddordeb personol iddyn nhw neu sy’n adlewyrchu dyheadau ar gyfer y dyfodol o ran addysg neu yrfa. Yn ystod y Project Unigol, bydd y dysgwyr yn meithrin sgiliau penodol ym maes Llythrennedd Ddigidol, Cynllunio a Threfnu a Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau ac yn eu defnyddio mewn modd priodol.

Rhaid llunio’r Project Unigol a’i gyflwyno naill ai fel adroddiad ysgrifenedig neu fel arteffact/cynnyrch wedi’i ategu gan dystiolaeth ysgrifenedig. Mae amrywiaeth eang o bosibiliadau y gellir eu dewis fel ffocws ar gyfer y Project Unigol ac anogir y dysgwyr i ystyried maes sydd o ddiddordeb personol iddyn nhw neu sy’n adlewyrchu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol o ran addysg neu yrfa. Er mwyn ymgymryd â Phroject Unigol a’i gwblhau, mae angen i’r dysgwyr feithrin a defnyddio amrywiaeth eang o sgiliau priodol. Wrth gwblhau’r Project Unigol, bydd y dysgwyr yn cydnabod pwysigrwydd gwaith ymchwil wrth wneud penderfyniadau hyddysg. Caiff y dysgwyr eu hannog i ddod o hyd i wybodaeth, ei dadansoddi, ei chyfleu a’i defnyddio i ddatrys problemau cymhleth. Caiff y dysgwyr y cyfle i ddangos gwreiddioldeb, blaengaredd ac i arfer cyfrifoldeb personol.