Dyma'r holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch i ymgeisio'n llwyddiannus i Goleg Dewi Sant.
Dolenni Cyflym
Cwestiynau Cyffredin
Byddwch yn derbyn e-bost i ddweud bod eich cais wedi cyrraedd. Yna, byddwn yn gofyn i chi anfon eich adroddiad Blwyddyn 11 neu’r adroddiad mwyaf diweddar sydd gennych.
Rydym yn llunio barn ar eich addasrwydd ar gyfer astudio yn y Coleg gan ddefnyddio nifer o feini prawf gan gynnwys eich cofnod presenoldeb yn yr ysgol, agwedd tuag at astudio yn ogystal â mesur eich cymhelliant i ddod i Goleg Dewi Sant. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor ar golegau arall os na allwn gwrdd â’ch gofynion cwrs neu bwnc.
Bydd myfyrwyr yn gwneud eu dewis o gwrs yn ystod y broses ymgeisio. Bydd y rhai sy’n derbyn cynnig diamod o’r Coleg yn trafod gydag aelod o’r Tîm Derbyn, a wneir trwy’r ffôn ym 2021. Pwrpas hyn yw i drafod eich gyrfa, nodau addysg uwch ac hyfforddiant, a pha gwrs sy’n addas i chi. Hefyd, byddwn yn egluro’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael i chi yn y Coleg.
Mae hyn yn ddewis rhagweiniol yn unig. Ym mis Awst, yn dilyn diwrnod canlyniadau TGAU, bydd y Coleg yn cofrestru’r rhai gyda chynnig diamod ac, ar hynny, bydd myfyrwyr yn gwneud eu dewisiadau terfynol. Bydd aelod o’r Tîm Cofrestru yno i drafod opsiynau ar sail eich canlyniadau TGAU a meini prawf mynediad y cwrs.
Byddwch yn gallu astudio cyrsiau lefel 3 cyn belled â’ch bod yn bodloni’r gofynion mynediad cyrsiau unigol.
Gall pob dysgwr gael y cyfle i ailsefyll eu TGAU Mathemateg neu TGAU Saesneg ochr yn ochr â’u cyrsiau Lefel 3 (UG neu BTEC). Rhoddir pwys mawr ar sicrhau ‘C’ mewn TGAU Mathemateg a TGAU Saesneg felly rydym yn sicrhau bod dosbarthiadau ar gael i bob dysgwr. Mae angen i rai dysgwyr cyrraedd gradd ‘B’ yn y cyrsiau hyn oherwydd gofynion mynediad i’r brifysgol felly rydym yn galluogi dysgwyr i gofrestru ar gyfer dosbarthiadau TGAU ailsefyll yn yr achosion hyn hefyd.
Na, yn wahanol i golegau eraill, nid ydym yn codi tâl ar fyfyrwyr ar gyfer cofrestru.