Yr aelod staff dynodedig sy’n gyfrifol am hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sy’n derbyn gofal yw Jamie Beynon, sef Cyfarwyddwr Efrydiaeth. Gellir cysylltu ag ef trwy:

E-bost:  jbeynon@colegdewisant.ac.uk

Ffôn: 02920 498555

Bydd y person dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn:

  • goruchwylio’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer derbyn pobl ifanc sy’n derbyn gofal
  • monitro, trwy gymorth yr Hyfforddwyr Dysgu; data presenoldeb, asesu a chyflawniad pobl ifanc sy’n derbyn gofal
  • hwyluso trefniadau dal i fyny pan nodir bylchau yng ngwybodaeth ac addysg y person ifanc
  • annog ymgysylltiad y person ifanc â chlybiau’r Coleg, cyngor y Coleg neu sesiynau adolygu ychwanegol
  • trefnu mynediad i loches diogel neu gwnsela o fewn y Coleg os oes angen
  • sicrhau bod cynlluniau addysg penodol (PEPs) yn cael eu cwblhau a bod modd mynychu’r cyfarfodydd adolygu aml-asiantaethol
  • goruchwylio trefniadau pan fydd y person ifanc yn gadael y coleg yn sgil symud lleoliad neu ar bwynt gadael naturiol.