Mae ceisiadau ar gyfer 2022 ar agor.
Gallwch wneud cais ar-lein, drwy ein gwefan.
Yn gyntaf oll, porwch drwy’r cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi. Efallai, rhwng nawr a’r broses o gofrestru gyda ni, gwnaiff y pynciau a ddewisir gennych newid, ond trwy ddewis eich pynciau yn gynnar, mae’n rhoi syniad i ni o bwy ydych chi, a’r hyn sydd o ddiddordeb i chi.
Cyrsiau
Porwch drwy’r cyrsiau yn yr adran ‘cyrsiau’ o’r wefan. Er mwyn ychwanegu cwrs, byddwch chi’n gweld botwm ‘Ychwanegu Cwrs at fy Nghais’. Gallwch ychwanegu hyd at 5 cwrs, ond cadwch mewn cof mai 3 neu 4 pwnc fyddech chi’n debygol o’u hastudio.
Pob tro rydych chi’n ychwanegu cwrs, bydd rhif yn ymddangos ger ‘Fy Nghais’ ar ben y dudalen hon. Ar ôl i chi bennu ag ychwanegu’ch cyrsiau, cliciwch ar ‘Fy Nghais’ er mwyn cwblhau’ch Ffurflen Gais.
