
Yr wythnos hon, dathlon ni Wythnos Ffoaduriaid 2025, a chofleidio’r thema genedlaethol “Cymuned fel uwch-bŵer,” a thynnu sylw at gryfder undod a phwrpas wedi’i rannu. Mae’r thema’n adlewyrchu’r ethos Gatholig, o adeilladu cymunedau sy’n seiliedig ar gariad Crist, lle mae’r cyfamod i garu’n cymydog yn ganolog.
Drwy gydol yr wythnos, roedd nifer o weithgareddau i ddathlu cyfraniad a gwytnwch unigolion sydd wedi’u dadleoli. Rhannodd myfyrwyr straeon personol, gan gynnig cipolwg i heriau a gobeithion rhai sydd wedi chwilio am loches. Rhown glod i Ffion ac Ahmet am eu gwaith ar y cyd o greu fideo YouTube oedd yn offeryn pwerus ar gyfer codi ymwybyddiaeth a meithrin gwrando a sgwrsio trugarog yn ein cymuned.
Cawsom ymweliad gan y Côr Oasis Un Byd, grŵp o Gaerdydd sy’n tynnu pobl o dros 30 cenedl ynghŷd, yn cynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Cynigiodd eu perfformiad, oedd yn gyfuniad o gerddoriaeth draddodiadol a chyfoes, flas ar amrywiaeth diwylliannau’r aelodau, ac roedd hi’n brofiad llawen i wrando arnynt. Gwnaeth ein myfyrwyr arddangos blaengaredd drwy drefnu stondinau ffrwythau a theisennau ar gyfer y digwyddiad, gan godi arian a chreu gofod ar gyfer sgyrsiau a chysylltiadau.
Yn y sesiynau dartiau amser cinio, cafwyd rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr a staff ddod at ei gilydd am hwyl a sbri wrth gystadlu!
Gorffennon ni’r wythnos gyda’r Offeren, lle gweddïon ni’n arbennig dros bawb sydd wedi cael eu dadleoli o’u cartrefi, am heddwch a chymod, ac am y nerth i ddangos trugaredd at bawb.
Drwy ymdrechion pawb ar y cyd, mae’n coleg wedi nodi Wythnos Ffoaduriaid ac ymgorffori ysbryd cymuned, gan drawsffurfio empathi yn weithgaredd, a meithrin amgylchedd lle caiff pawb eu gwerthfawrogi a’u cynnal.