UCAS: Rwyf wedi ymgeisio, beth nesaf?
MYND ATI I ADOLYGU’R EIRFA ALLWEDDOL
Cynnig– Dyma’r ymateb oddi wrth y brifysgol, sy’n cynnwys amodau penodol ar gyfer y cwrs (h.y. graddau neu ofynion y mae’n rhaid eu cyflawni er mwyn cael dy dderbyn ar y cwrs). Aros ac fe gei di weld os yw’r brifysgol dan sylw yn cynnig cyfweliad neu le ar gwrs i ti.
Gall cynigion fod yn: Amodol, Diamod neu’n Aflwyddiannus. Darllena’r blog ‘Ymateb i’ch Cynigion UCAS’ am fwy o wybodaeth ar y math o gynigion sydd, ac ar ‘Ddewisiadau Cadarn ac Yswiriant’.
Ateb – Dyma dy ymateb i bob cynnig gan y prifysgolion – aros nes i ti dderbyn cynnig oddi wrth bob prifysgol cyn ymateb gyda dy ddewis ‘Cadarn ac Yswiriant’ – gweler uchod
Canlyniadau – Dyma’r graddau fyddet ti’n eu cael mewn cymwysterau BTEC, Diploma CBAC, a’r UG/Safon Uwch (yng nghanol mis Awst) – mae cadarnhau unrhyw gynnig prifysgol yn dibynnol ar dy ganlyniadau.
Ar ôl anfon dy gais, bydd angen aros am gynigion. Mae’n rhaid i bob prifysgol ymateb erbyn dechrau mis Mai os wyt ti wedi anfon dy gais yn gynnar (15 Ionawr), neu erbyn canol mis Gorffennaf os wyt ti wedi anfon dy gais ar y 30 Mehefin. Os nad wyt ti’n clywed ‘nôl wrthyn nhw’n syth, bydda’n amyneddgar – mae’r prifysgolion yn derbyn nifer uchel o geisiadau. Felly, os nad yw’r brifysgol yn rhoi cynnig i ti erbyn y dyddiad cau, tybia fod dy gais yn aflwyddiannus.
Efallai bydd gofyn i ti fynychu cyfweliad cyn cael cynnig – dyma’r arfer ar gyfer cyrsiau gofal iechyd a chyrsiau cystadleuol eraill. Croeso i ti drefnu apwyntiad gyda’r Adran Gyrchfannau i gael sgwrs cyn y cyfweliad neu, hyd yn oed, i gael ffug gyfweliad.
Wedi i ti dderbyn dy gynigion, rhaid i ti ymateb erbyn y dyddiad cau (mae hyn yn amrywio o berson i berson, felly gwna’n siŵr dy fod yn cofnodi hyn, rhag ofn dy fod ti’n anghofio’r dyddiad!) Ar ôl cadarnhau dy gynnig, bydd rhaid gweithio’n galed er mwyn cael y graddau sydd angen i gyrraedd gofynion dy gynnig.
Gair i gall: Os wyt ti’n newid dy feddwl, ac yn penderfynu peidio â chadarnhau dy gynigion, gallet ti fynd drwy’r broses ‘Extra’ (hyd yn oed cyn dechrau mis Gorffennaf)