TGAU Gwyddoniaeth
Cymhwyster
TGAU
Bwrdd Arholi
CBAC
Trosolwg o’r Cwrs
Caiff y cwrs ei asesu trwy arholiadau ym mis Ionawr a chyfnod Mai/Mehefin a bydd asesiadau dan reolaeth yn cael eu cynnal yn ystod gwersi. Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i wneud papurau arholiad haen sylfaenol neu uwch yn ystod eu harholiadau.
Unedau a Gwmpaswyd
BIOLEG
1: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster
Testunau:
- 1 Celloedd a symudiad ar draws cellbilenni
- 2 Resbiradaeth a’r system resbiradol mewn bodau dynol
- 3 Treuliad a’r system dreulio mewn bodau dynol
- 4 System cylchrediad gwaed mewn bodau dynol
- 5 Planhigion a ffotosynthesis
- 6 Ecosystemau ac effaith dyn ar yr amgylchedd
CEMEG
1: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster
Testunau:
- 1 Natur sylweddau ac adweithiau cemegol
- 2 Adeiledd atomig a’r Tabl Cyfnodol
- 3 Dŵr
- 4 Y Ddaear sy’n newid yn barhaus
- 5 Cyfradd newid cemegol
FFISEG
1: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster
Testunau:
- 1 Cylchedau trydanol
- 2 Cynhyrchu trydan
- 3 Defnyddio egni
- 4 Trydan domestig
- 5 Nodweddion tonnau
BIOLEG
2: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster
Testunau:
- 1 Dosbarthiad a bioamrywiaeth
- 2 Cellraniad a bôn-gelloedd
- 3 DNA ac etifeddiad
- 4 Amrywiad ac esblygiad
- 5 Ymateb a rheoli
- 6 Clefyd, amddiffyniad a thriniaeth
CEMEG
2: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster
Testunau:
- 1 Bondio, adeiledd a phriodweddau
- 2 Asidau, basau a halwynau
- 3 Metelau ac echdynnu metelau
- 4 Adweithiau cemegol ac egni
- 5 Olew crai, tanwyddau a chyfansoddion carbon
FFISEG
2: Arholiad Ysgrifenedig, 1 awr 15 munud, 15% o’r cymhwyster
- 1 Pellter, buanedd a chyflymiad
- 2 Deddfau Newton
- 3 Gwaith ac egni
- 4 Sêr a phlanedau
- 5 Mathau o belydriad
- 6 Hanner oes
ASESIAD YMARFEROL
10% o’r cymhwyster. Asesiad ymarferol sy’n cael ei gynnal yn y coleg, ond caiff ei farcio’n allanol gan CBAC. Fe’i cynhelir yn ystod hanner tymor cyntaf y Gwanwyn (Ionawr – Chwefror). Argymhellir y dylid ei gynnal yn y flwyddyn olaf o’r rhaglen astudio.
Mae TGAU Gwyddoniaeth yn gymhwyster rhaganghenraid ar gyfer astudio rhai cyrsiau Lefel A neu Alwedigaethol. Mae’n darparu myfyrwyr gyda sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogaeth, ac mae’n hanfodol ar gyfer mynediad i gyrsiau megis dysgu, nyrsio a nifer arall o yrfaoedd proffesiynol.