TGAU Mathemateg
Cymhwyster
TGAU
Bwrdd Arholi
CBAC
Trosolwg o’r Cwrs
Caiff y cwrs ei asesu trwy ddau arholiad llinol. Bydd y cyfle cyntaf i ail-sefyll ym mis Tachwedd, gyda’r ail gyfle yn yr haf sy’n dilyn. Rhaid sefyll papur 1 a phapur 2 ar yr un pryd er mwyn llwyddo ar lefel TGAU.
Manyleb Linol
Papur 1 – Papur Digyfrifiannell
Sylfaenol: Gwaith rhif, Algebra, Onglau, Trawsffurfiadau, Siapau a Thebygolrwydd.
Uwch: Fel yr uchod gyda Ffurf Safonol, Syrdiau a Theoremau Cylchoedd yn ychwanegol.
Papur – Papur cyfrifiannell
Sylfaenol: Gwaith rhif, Algebra, Arwyneb a Chyfeintiau, Pythagoras, Triniaeth o ddata.
Uwch: Fel yr uchod gyda graffiau cyflymder-amser, rheol trapesiwm, trionglau tebyg, trigonometreg, amlder cronnus a histogramau.
Byddai gradd B mewn Haen Canolradd TGAU Mathemateg yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i haen uwch TGAU Mathemateg.
Mae gradd B mewn Mathemateg Haen Uwch yn angenrheidiol i ddysgwyr symud ymlaen i AS Mathemateg.