Dylai’r wybodaeth isod eich helpu i ddehongli’r data sydd wedi’u cynnwys o fewn Gwiriad Cynnydd eich mab/merch.

Cyfnod Asesu

Rhennir y flwyddyn Goleg yn gyfnodau asesu. Maent yn cyfateb yn fras i gyfnodau o chwe wythnos/hanner tymor. Rhoddir dyddiadau’r cyfnodau asesu isod:

  • Cyfnod Asesu 1: Dydd Mercher 4 Medi – Dydd Gwener 18 Hydref
  • Cyfnod Asesu 2: Dydd Llun 21 Hydref – Dydd Gwener 6 Rhagfyr
  • Cyfnod Asesu 3: Dydd Llun 9 Hydref – Dydd Gwener 31 Ionawr
  • Cyfnod Asesu 4: Dydd Llun 3 Chwefror – Dydd Gwener 21 Mawrth
  • Cyfnod Asesu 5: Dydd Llun 24 Mawrth – Dydd Gwener 9 Mai

Ar gyfer pob cyfnod asesu bydd rhieni/gwarcheidwaid yn derbyn Adroddiad Cynnydd Myfyriwr gyda’r wybodaeth ddiweddaraf. Bydd hwn yn cael ei anfon trwy e-bost at rieni/gwarcheidwaid dair wythnos ar ôl i bob cyfnod asesu ddod i ben.

Presenoldeb

Caiff presenoldeb ei nodi fel canran. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai presenoldeb sy’n darparu’r arwydd cliriaf o lwyddiant yn y chweched dosbarth. Mae ymchwil yn dangos y gall gostyngiad o 10% mewn presenoldeb arwain at danberfformiad o o leiaf un radd mewn cwrs. Dylai pob dysgwr ymdrechu am bresenoldeb o 100% ac mae unrhyw beth yn is na 95% yn annerbyniol.

Mae presenoldeb rhagorol yn ddangosydd o gymhelliant ac ymroddiad i ddysgu. Mae wedi profi ei fod yn arwain at fwy o debygolrwydd o symud ymlaen i addysg uwch, graddau gwell, ymgysylltu, cyfeillgarwch, a gwell sgiliau cymdeithasol. Gyda’r lefel presenoldeb ragorol hon, bydd gan eich plentyn y siawns orau o gyflawni ei botensial llawn.

Darperir data presenoldeb mewn dwy ffordd:

  • fel ffigwr canrannol ar gyfer y cyfnod asesu; ac
  • fel ffigwr blwyddyn hyd yma sy’n rhoi’r ffigwr canran presenoldeb o ddechrau’r flwyddyn.

Graddau ar sail Cyrhaeddiad

Dylai’r graddau hyn adlewyrchu perfformiad cyffredinol y dysgwr, yn seiliedig ar bob asesiad hyd yn hyn, ym mhob un o’i gyrsiau. Mae’r radd cyflawniad ar gyfer cwrs yn atgynhyrchu’r meini prawf graddio allanol a ddefnyddir gan y cyrff dyfarnu e.e. CBAC, BTEC ac ati:

  • Lefel UG: Graddau A-E ar gyfer cwrs ‘UG’ (gyda gradd ‘U’ yn ‘Ddiddosbarth’);
  • Lefel A: Graddau A*-E ar gyfer cyrsiau Safon Uwch (gyda gradd ‘U’ yn ‘Ddiddosbarth’);
  • Cyrsiau BTEC Lefel 1, 2 a 3: Llwyddo, Teilyngdod, Rhagoriaeth, *Rhagoriaeth; a
  • Chyrsiau TGAU A*-G (gyda gradd ‘U’ yn ‘Ddiddosbarth’)

Ar gyfer cyrsiau UG/Safon Uwch a TGAU, rydym yn ‘graddio’n gain’ ein graddau cyflawniad er mwyn rhoi ychydig mwy o wybodaeth i fyfyrwyr a rhieni ynglŷn â pha mor ddiogel yw’r radd yn ein barn ni. Felly, bydd gradd cyflawniad dysgwr yn fformat A1, B1, C3, er enghraifft.

Gradd Gain Ystyr Esboniad
1 Sicr Gellir cyflawni’r radd hon a gyda gwaith a chymorth ychwanegol gellir cyflawni’r radd nesaf.
2 Tebygol Gellir cyflawni’r radd hon ar yr amod bod y gwaith a’r cymorth yn parhau i fod yn eu lle.
3 Bregus Gellid cyflawni’r radd hon pe bai rhagor o waith a chymorth yn cael eu rhoi ar waith, ond gallai lithro i’r radd is nesaf heb hyn.

Er enghraifft:

  • A1 – gradd ‘A’ sicr – gall gwaith/cymorth pellach wthio hyn i ‘A*’.
  • B2 – gradd ‘B’ debygol – bydd gwaith/cefnogaeth barhaus yn golygu cyflawni’r radd hon.
  • C3 – gradd ‘C’ bregus – gallai gwaith neu gymorth pellach sicrhau’r radd hon, ond gallai ostwng i D.

Dylai’r dull hwn alluogi dysgwyr i wybod pa mor agos ydynt at y categori gradd nesaf ac a oes angen iddynt ganolbwyntio mwy i gyflawni’r radd a nodir.

Dylai pob cwrs UG/Safon Uwch a TGAU gwblhau o leiaf dau asesiad ‘arwyddocaol’ fesul cyfnod asesu, ac eithrio Cyfnod Asesu 3 sydd ag un asesiad yn unig oherwydd ei fod yn cwmpasu’r ffug arholiadau. Caiff y rhain eu graddio a’u cofnodi ar Student/Parent Advantage.  Dylid cynnwys un asesiad fesul uned ar Student/Parent Advantage ar gyfer cyrsiau BTEC (caiff graddau eu dyfarnu ar gwblhau’r uned yn unig).

Dylai asesiadau ‘sylweddol’ adlewyrchu gofynion allanol y cwrs. Mae’r rhan fwyaf o asesiadau ‘sylweddol’ ar gyfer cyrsiau UG/Safon Uwch ar ffurf cwestiynau o gyn-bapurau arholiad allanol, er enghraifft, traethodau neu gwestiynau math ymateb i ddata. Mae asesiadau ar gyfer cyrsiau BTEC Lefel 2 a 3 yn debygol o fod yn fwy amrywiol, gan gynnwys cyflwyniadau, adroddiadau ffurfiol ac ati.  Mae asesu ar gyfer cyrsiau TGAU yn debygol o fod yn gwestiynau cyn-bapur.

Sylwer – dangosydd o gynnydd hyd yn hyn yw’r radd cyflawniad, nid sicrhad o berfformiad yn y dyfodol.

Graddau Targed

Mae’r radd targed yn deillio o sgôr TGAU myfyriwr ar fynediad i’r Coleg. Mae gradd targed myfyriwr Chweched Uchaf yn seiliedig ar ei sgôr TGAU ar fynediad, fodd bynnag, os yw perfformiad myfyriwr yn ei arholiad UG yn rhagori ar y radd targed hon, gallai’r radd darged symud i fyny yn unol â hyn. Mae’r radd targed yn radd ‘fyw’ a gall newid os bydd dysgwr yn perfformio yn uwch na’i radd targed cychwynnol yn gyson.

Graddau Ymgysylltu

Mae graddau ymdrech yn amrywio o 1-4 ac yn cael eu dyfarnu ar sail y meini prawf canlynol:

1 : Eithriadol

2: Da

3: Angen gwelliant

4: Annerbyniol