Da iawn i’r myfyrwyr sydd wedi graddio o’r Rhaglen Ysgolheigion yr wythnos hon, sef rhaglen a gynhelir gan ‘The Brilliant Club’.
Nod y Rhaglen Ysgolheigion yw cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth, sgiliau, a’r hyder fydd angen arnynt i symud ymlaen i’r prifysgolion mwyaf cystadleuol. Fe wnaeth y myfyrwyr gymryd rhan mewn sawl digwyddiad sy’n rhan o’r rhaglen, gan gynnwys digwyddiad i’w lansio, 6 sesiwn gyda thiwtor prifysgol, ysgrifennu aseiniad terfynol, a digwyddiad graddio i gloi’r rhaglen.
Roedd y dysgwyr yn gallu dewis o blith meysydd pynciol o ddiddordeb iddynt yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau, STEM, a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Roedd deunydd astudio’r cwrs ar lefel radd israddedig, a chafodd eu haseiniadau i’w marcio yn ôl meini prawf a ddefnyddir yn y brifysgol. Roedd y profiad, felly, yn flas go iawn o ysgrifennu aseiniadau ar lefel radd israddedig i’r myfyrwyr sy’n bwriadu ymgeisio i brifysgolion cystadleuol y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Millie Yellen, a gymerodd rhan yn y Rhaglen Gwyddorau Cymdeithasol eleni: “Fe wnes i fwynhau’r cyfle i ddatblygu fy ngwybodaeth a dealltwriaeth mewn pwnc sydd ddim yn gyfarwydd i fi, tra’n dysgu mewn sesiynau sy’n seiliedig ar ddulliau addysgu prifysgol.
Fe wnaeth Bridget, ein tiwtor, greu’r cydbwysedd perffaith o ddarparu cefnogaeth i ni a rhoi’r rhyddid i ni allu cwblhau ein gwaith yn annibynnol, gyda’r bwriad o wella ein sgiliau ymchwilio, ysgrifennu, ac i hybu ymdeimlad o annibynniaeth yn gyffredinol. Credaf fod y rhaglen yn gyfle gwych i gael blas o addysg uwch, lle mae’r technegau o addysgu’n wahanol i’r rhai a ddefnyddir yn y coleg, felly mae’n ffordd dda o bontio’r ddau!”
Hoffai’r Coleg estyn diolch i’r tiwtoriaid – Bridget Kerr, Kathryn Hughes, a Sarah Morgan – am rannu eu profiadau a’u gwybodaeth am destunau sydd tu hwnt i ddewisiadau cwricwlaidd arferol y Coleg.