Mr Grabham yn ennill y wobr am ‘Gefnogi Dilyniant i Addysg Uwch’

Tiwtor Bugeiliol, Mr Grabham, yw ennillydd y wobr eleni am ‘Gefnogi Dilyniant i Addysg Uwch’ yn Seremoni ‘Gwobrau Athrawon a Chynghorwyr PDC 2021’.  

Mae’r wobr yn cydnabod y gwaith y mae Mr Grabham yn cyflawni a’r gofal mae’n dangos tuag at ddyfodol ei fyfyrwyr. Cafodd ei enwebu gan fyfyrwyr yng Ngholeg Dewi Sant, a myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. 

Mae Mr Grabham yn aelod sy’n cyfrannu’n weithredol at gymuned Coleg Dewi Sant, ac mae’n arwain sawl achos elusennol o fewn y Coleg. Hefyd, mae Mr Grabham ynghlwm â’r ymgyrch flynyddol i helpu’r digartref dros y Nadolig, lle trefnir digwyddiadau i godi arian i’r digartref yn ystod amser sy’n heriol iawn iddynt.    

Mae Mr Grabham hefyd yn hyrwyddwr dros Iechyd Meddwl, ac yn arweinydd ym Mhrosiect ‘Bloom’, sy’n cefnogi pobl ifanc ac yn darparu’r arfau sydd angen arnynt i gryfhau eu gwytnwch yn ystod adegau anodd. 

Dywedodd Pennaeth Cynorthwyol y Coleg, Dr Ruth Jones:

“Mae’r ffaith bod myfyrwyr wedi cydnabod Mr Grabham a’i gefnogaeth, yn enwedig yn ystod blwyddyn lle cafodd COVID effaith sylweddol arni, yn destament i’w allu fel unigolyn ac athro.    

Roedd ei gyfraniad i’r Coleg yn un ffantastig a fydd dal o fudd i’r myfyrwyr sy’n ymuno eleni”.