Mae Jeremiah Azu, cyn-fyfyriwr Coleg Dewi Sant, yn Bencampwr Ewropeaidd ras y 100m dan-23
Heb unrhyw amheuaeth, Jeremiah Azu yw’r unigolyn cyflymach sydd erioed wedi astudio yng Ngholeg Dewi Sant.
Fe wnaeth y sbrintiwr o Gaerdydd ennill y fedal aur yn ras 100m ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd dan-23 yn Talinn.
Gan gipio’r rownd derfynol gydag amser o 10.25, fe orffennodd dros fedr ar blaen y rhedwr a ddaeth yn ail.
Yn y rhagrasys, llwyddodd Jeremiah i osod ei record bersonol o 10.19 eiliad, sy’n golygu efe yw’r Cymro cyflymaf erioed, dros 100m. Y record Gymreig ar hyn o bryd yw 10.11 eiliad.
Roedd ennill y fedal aur yn gamp haeddiannol i Jeremiah, yn enwedig ar ôl cael anaf yn ystod ras terfynol y 100m dan-19 dwy flynedd ‘nôl, tra oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant.
Ar ôl y ras, dywedodd Jeremiah: “Mae’n teimlo’n wych. Mae’n gymaint o ryddhad oherwydd tro diwethaf i mi fod yma, doeddwn i ddim yn gallu cerdded oddi ar y trac, ond y tro hwn, rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi’i gyflawni. Roeddwn i’n 100% am yr hyn y des i yma i’w gael. Yn yr wythfed safle yn dod i’r rownd derfynol oeddwn i y tro hwn, felly roeddwn i ‘oddi ar y ‘radar’ fel petai, ond teimlais fy mod i’n gallu i’w wneud.”