Mae’r ‘Gymuned’ yn air a glywir yn aml yng Ngholeg Dewi Sant. Trwy gydol y pandemig, roedd yn air amlwg, gydag ystyr unigryw i amryw o bobl. Ar gyfer rhai, fe wnaeth y gymuned ddarparu ymdeimlad o undod, cysur, neu gefnogaeth iddynt – boed hynny’n feddyliol, emosiynol, neu’n gorfforol. I rai pobl, mae’r gair yn golygu ‘cyfrifoldeb’, neu’r rhwymedigaeth i ‘ddilyn eich pregeth eich hun’.
Yn yr haf, gorffennodd Siân Connolly eu hastudiaethau yma yng Ngholeg Dewi Sant. Trwy gydol ei hamser yn y coleg, chwaraeodd hi rôl allweddol wrth hyrwyddo’r ethos Catholig.
Yn ystod ei blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Dewi Sant, fe wnaeth Siân arwain Cwrs Alffa, gyda chymorth yr Adran Addysg Grefyddol, ar gyfer myfyrwyr i ddod ynghyd i drafod eu cwestiynau am Gristnogaeth. Roedd yn gyfle hefyd i Gristnogion y Coleg allu cwrdd a rhannu eu profiadau.
Dywedodd Siân, “Roeddwn yn ddiolchgar am yr help a’r wybodaeth a gefais oddi wrth Gristnogion ifainc eraill yn y Coleg tra’n ateb cwestiynau heriol! Yn anffodus, doeddwn ni ddim yn gallu ymuno ag unrhyw grŵp allgyrsiol arall yn ystod fy ail flwyddyn – oherwydd y pandemig Coronafeirws”
Er nad oedd hi’n gallu cymryd rhan yng ngweithgareddau’r coleg, fe wnaeth Siân wirfoddoli gyda’r ‘CARE Project’ – prosiect a sefydlwyd gan y ‘Parish Trust’ er mwyn darparu ‘Eglwys, a’r cymorth sydd angen, ar frys’. Mae’n darparu cefnogaeth i bobl sy’n byw yn ardal god post CF83, trwy gynnig gwasanaeth casglu presgripsiwn, gwasanaeth casglu siopa, cynllun ymgyfeillio, a gwasanaeth cludo parseli bwyd yn rhad ac am ddim. Wrth i’r cyfnod clo gael ei lacio, mae’r gofyn am wasanaethau casglu presgripsiwn a chasglu siopa wedi lleihau, ac mae’r prosiect nawr yn canolbwyntio’n hollol ar gludo parseli bwyd.
Er dechreuodd Siân fel gwirfoddolwr, mae hi bellach wedi cael ei phenodi yn Swyddog Gweithrediadau ar gyfer y prosiect — lle mae hi’n gyfrifol am gasglu bwyd ar gyfer y banc bwyd, ac yn rheoli hyd at 100 o wirfoddolwyr sy’n helpu gyda’r broses o gasglu unrhyw fwyd sy’n weddill oddi wrth gyflenwyr.