Llongyfarchiadau i Academi Pêl-fasged Dewi Sant ar gyrraedd Rownd Derfynol Cwpan Colegau Prydain Cymdeithas y Colegau ar y 3ydd o Fai, gan chwarae yn erbyn Coleg Itchen yn Wolverhampton.
Roedd tîm Pêl-fasged y Dynion wedi cymhwyso ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan Colegau Prydain Cymdeithas y Colegau ar ôl rhediad cwpan cystadleuol iawn, gan ddod yn erbyn rhai o academïau gorau’r DU; Camp enfawr i’r chwaraewyr hyn, ar ôl rhoi eu holl ymdrech i bob gêm y tymor hwn i wneud y cyfle hwn yn bosibl.
Chwaraeodd Pêl-fasged Dewi Sant Itchen, un o raglenni Pêl-fasged mwyaf Prydain, mewn gêm safonol, ddwys, hynod o agos a chystadleuol drwyddi draw gyda Dewi Sant yn arwain y sgôr gyda 65-64 yn yr hanner amser.
Er, doedd dim lle i ddathliadau cynnar wrth i’r gêm aros yn agos ac roedd Dewi Sant ar ei hôl hi ar ôl cyrraedd trydydd chwarter y gêm gyda sgôr agos o 69-72.
Er gwaethaf yr ergyd hon, llwyddodd Dewi Sant i adennill eu momentwm gyda rhai pwyntiau rhyfeddol i fynd â’r gêm hon i amser ychwanegol gyda sgôr clwm o 93-93 yn llawn amser.
Yn anffodus, gyda dim ond munud ar ôl, roedd momentwm y gêm wedi newid yn erbyn Dewi Sant gyda’r sgôr yn agos at 101-100 i Goleg Itchen.
Roedd y bechgyn wedi’u siomi nad oeddent wedi ennill Rownd Derfynol y Gwpan, ond yn sicr fe wnaethant Dewi Sant yn falch wrth ddod yn ail i Golegau Prydain Cymdeithas y Colegau ar gyfer tymor 2022-23 gyda phrawf bod eu gwaith caled a’u hymdrech wedi talu ar ei ganfed.
“Rydyn ni’n falch o ba mor bell mae’r bechgyn wedi dod y tymor hwn a’r lefel o benderfyniad maen nhw wedi dangos trwy bob gêm.”
“Fe wnaethon nhw roi perfformiad rhagorol wrth gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymdeithas y Colegau y tymor hwn.” – James
Llongyfarchiadau i dîm dynion Pêl-fasged Dewi Sant am eu penderfyniad a’u hymdrech, da iawn i’r hyfforddwyr, a phawb arall a gymerodd ran am roi o’u gorau.
David Wells 41 pwynt
Alonzo Rosario 32 pwynt
Ravin Edirimuni 16 pwynt
100-109
Cewch y newyddion diweddaraf gyda thîm Pêl-fasged Dewi Sant trwy ddilyn eu Trydar: (@StDavidsBball)