Goodbye and Good Luck St David's Students

Ar ddiwrnod olaf addysgu Chweched Uchaf, ymgynullodd athrawon a myfyrwyr ar gyfer cinio arbennig i ffarwelio a dymuno pob lwc i’w gilydd am un tro olaf. Roedd bwyd blasus ar gael, gan gynnwys pitsa, teisenni, byns bao a tacos. Roedd yn gyfle perffaith i bawb fwynhau cwmni ei gilydd am un tro olaf a chael hwyl.

Rhoddwyd crysau-t gwyn i bob dysgwr i’w llofnodi gyda negeseuon pob hwyl. Roedd hi’n ffordd wych i bawb fynegi eu dymuniadau gorau a straeon digri, gan greu cofrodd barhaol o gyfeillgarwch.

Thema’r diwrnod oedd ‘Ffair Haf’, ac roedd yna baentio wynebau a stondinau bach a gemau i’w chwarae, gyda gwobrau bach i’w hennill, gan gynnwys siocled, lolis a theganau gwrth-straen. Un o’r gweithgareddau mwyaf difyr oedd ‘Gwlychu’r Athro’, lle gwirfoddolodd Mr Todd a Mr Price i gael eu gwlychu gyda sbwnjis wedi’u taflu gan y myfyrwyr. Diolch i Mr Todd a Mr Price am wirfoddoli. Roedden nhw’n wlyb iawn yn y diwedd ond roedd pawb arall mewn hwyliau da.

Roedd llawer o’r myfyrwyr mewn gwisg ffansi – roedd themâu tylwyth teg, Mario a Luigi, crysau Hawäiaidd a ‘Men in Black’ yn arbennig o boblogaidd. Roedd hi’n bleser gweld creadigrwydd a dychymyg pawb yn cael eu harddangos.

Cyn y digwyddiad, roedd myfyrwyr yn gallu pleidleisio ar gyfer athrawon mewn sawl categori.

Yr enillwyr oedd:

  • Mwyaf cymwynasgar – Mrs Lennon (LRC) a Mrs Breslin (Troseddeg)
  • Mwyaf angerddol – Dr Beer (Cemeg)
  • Mwyaf doniol – Mr Hales a Mr R. Davies (Mathemateg)
  • Mwyaf ysbrydoledig – Dr Shuttleworth a Mrs Bird (Gwyddoniaeth)
  • Mwyaf creadigol ac arloesol – Miss Todd-Parker (Saesneg)
  • Mwyaf llawen ac optimistaidd – Mrs Eriksen (Gwasanaethau Myfyrwyr)
  • Mwyaf gweithgar – Mr Rees (TG)
  • Mwyaf tebygol i fod yn filionêr – Mrs Williams (Mathemateg)