Mae’r Ganolfan Cymorth i Ddysgwyr (CCD) yn darparu profiad dysgu cynhwysol ac unigol i ddysgwyr niwroamrywiol. Yr LSC yw’r lle ar gyfer cymorth a chyngor, i fyfyrwyr sy’n cael trafferth gydag unrhyw agwedd ar fywyd coleg, gan gynnwys y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn dibynnu ar natur yr anghenion a’r hyn sy’n addas ar gyfer y myfyriwr unigol. Er enghraifft, rydym yn cynnig:

  • Lleoliad tawel ychwanegol i gwblhau gwaith
  • Cefnogaeth academaidd un-i-un
  • Apwyntiadau ymgynghorol
  • Gwasanaeth Cwnsela Coleg
  • Cydlynu cefnogaeth ac addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau
  • Cyfeirio at ein Cynllun Mentora cyfoedion
  • Sesiynau cefnogaeth grŵp
  • Cyfeirio at gefnogaeth allanol

Tîm CCD

Mae’r Ganolfan Cefnogi Dysgwyr wedi’i lleoli yn T08 (ar lawr uchaf y Prif Adeilad). 

Os nad ydych chi’n siŵr ym mhle i’w chanfod, gallwch ofyn yn y Dderbynfa neu holwch aelod o’r staff. Fel arall, gallwch anfon e-bost at LSCTeam@stdavidscollege.ac.uk

Pwy sy’n gallu derbyn cefnogaeth?

Gallwn ni gynnig cyngor i unrhyw fyfyriwr sy’n cael trafferth yn y Coleg am ba bynnag rheswm. Ddim yn siŵr os ydyn ni’n gallu eich helpu? Gofynnwch! Os nad oes modd i ni eich helpu, rydym yn gallu cysylltu gyda’r bobl sy’n medru i’w wneud.

.

.

Sut i gysylltu

Y ffordd fwyaf haws o gysylltu â ni yw i ddanfon e-bost i’r cyfeiriad yma: LSCteam@stdavidscollege.ac.uk.

Os oes gennych bryder sy’n fater o frys, rhowch wybod i ni a byddwn yn dod o hyd i rywun i siarad â chi ar unwaith.