Daeth dosbarth 2023 at ei gilydd dan yr unto am un tro olaf yn Eglwys Gadeiriol Caerdydd ar 7 Medi yn Seremoni Ymadawyr eleni.

Maen nhw wedi bod yn enghraifft o ymrwymiad, angerdd ac uchelgais eithriadol trwy gydol eu taith academaidd dwy flynedd yng Ngholeg Dewi Sant. Rydym yn falch dros ben o gyflawniadau arbennig ein myfyrwyr, yn enwedig o ystyried yr heriau sylweddol yn sgil y dirwedd addysg yn ystod ac ar ôl y pandemig COVID-19. Mae’r unigolion gwydn hyn wedi addasu, ond maent hefyd wedi ffynnu a dyfalbarhau yn eu hymchwil di-baid am wybodaeth.

Crynhodd Ffarweliwr Dosbarth 2023 Dylan Balch y digwyddiad yn dda, gan ddweud:

“Roedd myfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd yn anghyfarwydd â’r amgylchedd y camon ni i mewn iddo gyda’n gilydd ym mis Medi 2021. Efallai gyda rhywfaint o ansicrwydd a straen ar hyd y ffordd. Serch hynny, mae’r ddwy flynedd rydyn ni wedi’u treulio gyda’n gilydd fel myfyrwyr yng Ngholeg Dewi Sant wedi bod yn rhai o’r blynyddoedd mwyaf arwyddocaol a thrawsnewidiol yn ein bywydau hyd yn hyn, ac os nad ydyn ni’n sylweddoli ar hyn o bryd, rydyn ni’n sicr o wneud hynny yn y blynyddoedd i ddod.”

Dyfarnwyd dros 150 o wobrwyon ar noswaith i fyfyrwyr, athrawon ac aelodau’r teulu ddathlu cyflawniadau dysgwyr cyn iddynt ddechrau ar eu taith nesaf – p’un ai’r brifysgol, prentisiaeth neu gyflogaeth yw hynny.

Mae’r gydnabyddiaeth ystyrlon hon yn debygol o greu atgofion cadarnhaol parhaol wrth iddynt symud ymlaen y tu hwnt i’w hamser gyda ni yng Ngholeg Dewi Sant. Maent wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl, ac mae’r gwobrau hyn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’u hymdrechion rhagorol.

“Gallwch bob amser fod y gorau gallwch chi fod, felly llongyfarchiadau ar bopeth rydych chi wedi’i gyflawni. Da iawn, rydych chi’n ei haeddu am yr holl waith rydych chi wedi’i roi i mewn. Mae Cristnogaeth yn edrych i’r dyfodol ac mae’ch un chi o’ch blaenau. Mwynhewch a phrofwch ef.” – Y Tad Gray

 

 

Roeddem yn falch iawn o gael penaethiaid yr Ysgolion Uwchradd Catholig lleol, Richard Gwyn Sant, Illtud Sant a Corpus Christi yn ymuno â ni. Fe gyflwynon nhw’r gwobrau Ysgoloriaeth i’r myfyrwyr eithriadol sy’n symud ymlaen o’r Ysgol Uwchradd i Goleg Dewi Sant.

Yn ystod y seremoni, mwynhaodd y cannoedd oedd yn bresennol dair interliwd gerddorol wedi’u perfformio gan ein myfyrwyr Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Chweched Uchaf: Iustina Chirila, Lucy-Jo Evans, a Ffion Bowley. Agorodd Iustina Chirila’r sioe gyda darn clasurol, “Se tu m’ami, se sospiri,” a ddaliodd sylw pawb a gosododd awyrgylch bositif ar gyfer gweddill y noswaith. Canodd Lucy-Jo Evans ddatganiad o “I Hope You Dance,” ac yn hwyrach yn y noswaith rhoddodd Ffion Bowley ddatganiad o “For the Beauty of the Earth” i ni.

Ar ôl i’r seremoni orffen, wrth i’r myfyrwyr a’u rhieni adennill eu hunanfeddiant o gyffro’r gwobrwyon, roedd yn amlwg bod dagrau o lawenydd wedi cael eu gollwng yn ystod y noswaith. Parhaodd ton o emosiynau positif i lenwi’r awyrgylch y tu allan i’r eglwys gadeiriol, er gwaetha’r gwres llethol y tu mewn iddi yn ystod y seremoni wobrwyo.

Yna aeth y myfyrwyr, staff, rhieni a gwesteion gwadd ar draws y ffordd am luniaeth yn Cornerstone; diod oer fawr ei hangen i yddfau sychedig yn dilyn y boethdon eithafol.

Gobeithiwn y bydd dosbarth 2023 yn cofio eu profiadau yng Ngholeg Dewi Sant yn annwyl ac yn mynd â’r atgofion gwerthfawr hyn gyda nhw ble bynnag y mae bywyd yn mynd â nhw. Llongyfarchiadau i chi gyd a phob lwc!