Angen teuluoedd i dderbyn myfyrwyr ar gyfer rhaglen lwyddiannus gyda’r Swistir yng Ngholeg Catholig Dewi Sant.
Fel y bydd llawer ohonoch chi’n gwybod, dechreuodd Coleg Catholig Dewi Sant groesawu grwpiau o fyfyrwyr o’r Swistir i Flwyddyn 12 am un flwyddyn academaidd o fis Medi 2021.
Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiant mawr i’r coleg a’r gymuned leol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y rhaglen hon yn parhau am flynyddoedd lawer.
Er mwyn i’r rhaglen fod yn llwyddiant, mae angen teuluoedd gofalgar lleol sydd â mynediad at Goleg Catholig Dewi Sant ac ystafell wely sbâr sydd ar gael o fis Medi tan ddiwedd mis Mehefin.
Yr hyn sydd angen i chi ei ddarparu:
- Amgylchedd gofalgar a chefnogol ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod – mae pob math o deuluoedd yn cael eu hystyried. Bydd myfyrwyr yn cael eu paru â’r teulu mwyaf priodol.
- Ystafell wely i’r myfyriwr ac ardal astudio lle gall ganolbwyntio (os nad yn yr ystafell wely).
- Pob pryd bwyd ar wahân i ginio ar ddiwrnodau ysgol.
- Mae’r myfyrwyr yn dychwelyd adref ar gyfer gwyliau’r Nadolig a’r Pasg, a gellir trefnu gofal ar gyfer gwyliau byr eraill i’r teulu gan roi hyblygrwydd i chi yn ystod y flwyddyn.
Byddwch yn derbyn:
- cydnabyddiaeth ariannol hael a,
- chefnogaeth gydol y flwyddyn gan Barnes Host Families a fydd yn rheoli’r teuluoedd sy’n derbyn myfyrwyr a’r myfyrwyr y tu allan i’r coleg, gan helpu i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol.
Os oes gennych chi ddiddordeb, am ragor o wybodaeth cysylltwch â Ric Carby ar 07748 113782 neu e-bostiwch ric@host-families.co.uk