
Gwnaeth Safle Lansio, staff bugeilio a dysgwyr lunio ryseitiau llwyddiant i annog dysgwyr i ddod yn annibynnol ar ôl coleg. Mae’r llyfryn, sydd ar gyfer Hwyl fawr a Phob Lwc, yn rhannu ryseitiau prydau bwyd hawdd a rhad i’w gwneud, sy’n hyrwyddo bwyta’n iach a datblygu sgiliau coginio.
Rhannodd Ms. Thomas, Tiwtor Bugeiliol, ei barn o’r digwyddiad:
“Yn ystod y digwyddiad Hwyl Fawr a Phob Lwc, dwedodd y myfyrwyr pa mor ddefnyddiol fydd y llyfryn yn y brifysgol a’i fod yn eitem arbennig i’w gadw a’u hatgoffa o’u hamser yng Ngholeg Dewi Sant.” Roedd Safaa ac Allyson wrth eu boddau i weld eu ryseitiau nhw yn y digwyddiad. Rhannodd Allyson sut roedd hi’n arfer gwneud Arroz Caldo gyda’i mam-gu. Saig draddodiadol Philipino yw Arroz Caldo sy’n flasus iawn.
Mae’r llyfryn yn cynnwys 16 rysáit ar gyfer coginio brecwast, cinio, te a phwdin. Mae pedwar dewis i frecwast: Shakshuka, Bagels Boreol, Arroz Caldo, a Saws Iam ac wy. I ginio gall myfyrwyr drio Linguine Corgimwch mewn Menyn Garlleg, Ful Medames, Pasta Cyw Iâr Fajita, a Bagel Eog ac wy.
Ar gynnig fel prif bryd mae Pasta Selsig Fegan a Thomato, Fajitas Cyw Iâr, Arrabiata, Cyrri, Pasta Garlleg, a Chilli Con Carne. Yn olaf ceir dewis o ddau bwdin bendigedig: Tost Ffrenging Brioche neu Grymbl Ffrwythau Clasurol.
Yn ogystal â’r ryseitiau, mae’r llyfryn yn cynnwys cyngor gan Mrs. Reypert, Mrs. Bird, Mrs. Brewster, Y Tad Benny, Miss O’Brien, a Miss Hampshire. Maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd sgiliau ymarferol bywyd ar ben gwaith academaidd. Mae’r geiriau hyn i arwain myfyrwyr drwy gam nesaf eu bywydau wrth iddyn nhw adael y coleg, a chynnig hyder iddyn nhw yn eu hannibyniaeth.
Gobeithio y gwnaiff y llyfryn hwn ddarparu dechreuad da i chi yn y gegin, faint bynnag o brofiad sydd gyda chi eisoes, drwy gynnig syniadau syml a rhad am brydau. Byddwch chi’n darganfod cyngor gwerthfawr ochr yn ochr â’r ryseitiau i’ch helpu i reoli’ch astudiaethau, gwaith a bywyd tu hwnt i’r coleg.
Os hoffech chi weld “ryseitiau llwyddiant” neu i ddarllen y cyngor sydd ynddynt, gallwch chi lawrlwytho’r e-lyfryn gan ddefnyddio’r ddolen isod.