Mae Coleg Catholig Dewi Sant wedi derbyn £225,000 gan Medr, fel rhan o’i Gronfa Datblygu Strategol Ôl-16, i arwain datblygiad y Coleg Catholig Cenedlaethol — rhwydwaith cydweithredol newydd ledled Cymru a gynlluniwyd i ehangu mynediad at addysg ôl-16 o ansawdd uchel.

Mae’r cyllid yn rhan o fuddsoddiad ehangach Medr o bron i £5 miliwn ar draws 12 prosiect cydweithredol, gyda’r nod o gryfhau gweithio mewn partneriaeth, gwella canlyniadau dysgwyr, a chreu system addysg drydyddol fwy cydlynol ledled Cymru.

Dan arweiniad Coleg Catholig Dewi Sant mewn partneriaeth ag Archesgobaeth Gatholig Caerdydd-Mynyw a’r Gwasanaeth Addysg Gatholig, bydd y prosiect yn ffurfioli cydweithrediad cenedlaethol o ddarparwyr ôl-16 Catholig gyda’r uchelgais o ymestyn mynediad i sefydliadau nad ydynt yn Gatholig a sefydliadau gwledig sydd ar hyn o bryd yn wynebu dewis neu gapasiti cyflwyno Lefel A cyfyngedig.

Bydd y Coleg Catholig Cenedlaethol yn:

  • ymestyn mynediad dysgwyr at ystod ehangach o lefelau-A, waeth ble maen nhw’n ddaearyddol neu faint eu sefydliad;
  • cryfhau sicrhau ansawdd drwy rannu dysgu proffesiynol, adolygu gan gydweithwyr, a chynllunio cwricwlwm yn gydweithredol;
  • datblygu addysgeg o safon uchel, nodweddiadol, ar-lein a chyfunol ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghymru;
  • cefnogi darpariaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a chymunedau Cymraeg.

Mae’r prosiect yn adeiladu ar gynllun peilot llwyddiannus Coleg Catholig Dewi Sant o gyflwyno cymwysterau Lefel A ar-lein mewn pynciau fel Ieithoedd Tramor Modern, y Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Economeg, a Chymraeg Ail Iaith, gan alluogi dosbarthiadau chwech llai i barhau i fod yn hyfyw wrth gynnig dewis gwirioneddol o’r cwricwlwm i ddysgwyr.

Dywedodd Geraint Williams, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Catholig Dewi Sant:
“Mae’r cyllid hwn yn gymeradwyaeth sylweddol o fodel sydd wedi’i wreiddio mewn cydweithio, ecwiti a rhagoriaeth. Fel yr unig goleg chweched dosbarth a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru, ac un o’r darparwyr cymwysterau Lefel A mwyaf yng Nghymru, mae Coleg Dewi Sant wedi datblygu dyfnder o arbenigedd mewn lled y cwricwlwm, sicrhau ansawdd, ac addysgeg ôl-16 sy’n ei roi mewn sefyllfa unigryw i arwain y gwaith hwn.

Bydd y Coleg Catholig Cenedlaethol yn sicrhau nad yw pobl ifanc ledled Cymru, yn enwedig y rhai mewn cymunedau gwledig neu dan anfantais, yn gyfyngedig yn eu dyheadau gan ddaearyddiaeth na chapasiti sefydliadol. Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd yn agos â’n cenhadaeth fel coleg Catholig sy’n gwasanaethu’r lles cyffredin, a chyda gweledigaeth Medr am system drydyddol fwy cyd-gysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar y dysgwr.

Rydym yn ddiolchgar i Medr a’n partneriaid strategol yn y Gwasanaeth Addysg Gatholig ac Archesgobaeth Caerdydd-Mynyw am eu hyder yn y gwaith hwn ac am eu cefnogaeth barhaus i gryfhau cydweithio a chyfleoedd ar draws addysg ôl-16 yng Nghymru.”

Dywedodd Archesgob Archesgobaeth Gatholig Caerdydd-Mynyw, Mark O’Toole:

“Rwy’n falch iawn o weld datblygiad Coleg Catholig Cenedlaethol Dewi Sant a’r bartneriaeth hon rhwng yr Eglwys a Llywodraeth Cymru, gan gryfhau addysg ôl-16 o ansawdd uchel ledled Cymru gyfan. Mae’r Eglwys eisiau i lawer mwy o bobl ifanc gael y cyfle i gael addysg uchelgeisiol ac ysbrydoledig yn ystod y blynyddoedd hanfodol hyn o’u datblygiad a’u ffurfiant”.

Bydd y prosiect yn rhedeg tan ddiwedd blwyddyn academaidd 2025–26 a’n huchelgais yw datblygu fframwaith cenedlaethol cynaliadwy ar gyfer darpariaeth ôl-16 gydweithredol, gyda chynlluniau ar gyfer parhad hirdymor y tu hwnt i’r cyfnod ariannu.