Daeth bwrlwm i Goleg Dewi Sant yr wythnos hon, wrth i’n myfyrwyr droi hwyl a chreadigrwydd mewn i newid go-iawn ar gyfer Wythnos Elusen Canser.

Dros y pedwar diwrnod diwetha’ mae’n myfyrwyr wedi gwneud ymdrechion gwych i godi arian i nifer o sefydliadau ardderchog sy’n cefnogi pobl yng Nghaerdydd a’r ardal.

Cakes on a table

O bobi danteithion i beintio wynebau a thwrnament dartiau, daeth cymuned y coleg ynghŷd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod Wythnos Elusen Canser Caerdydd.

Gweithgareddau’r wythnos

Dechreuodd yr hwyl dydd Llun, gyda gwerthiant tocynnau raffl yn cychwyn yn y bore. Erbyn amser cinio roedd pob math o weithgareddau i’w gweld, gan gynnwys helfa wyau Pasg, stondin deisennau, tatŵs henna, a lansiad y cystadleuthau echwaraeon a dartiau.

Students painting

Wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, ymunodd myfyrwyr mewn ystod o weithgareddau hwylus gan gynnwys peintio wynebau, her “dyfalwch pa athro” gyda lluniau babis, a cherddoriaeth fyw wrth i Frwydr y Bandiau agor ar y llwyfan.

Cafwyd picnic y tu allan i adeilad George Stack dydd Iau, gweithgaredd arall i ychwanegu at hwyl yr wythnos.

St Davids student playing guitar

Mae’r prif weithgareddau wedi dod i ben erbyn hyn, ond mae’r cyffro’n parhau wrth inni gyhoeddi enillwyr y raffl a’r cystadleuthau amser cinio dydd Gwener, i goroni digwyddiad codi arian llwyddiannus arall yng Ngholeg Dewi Sant.

Pam codi arian?

Er bod yr wythnos wedi bod yn llawn hwyl, mae hefyd wedi tynnu sylw at achos pwysig. Mae canser yn glefyd sydd, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn effeithio ar filiynau lawer o bobl, gan wneud gwaith sefydliadau cymorth fel cymorth canser Maggie’s yn bwysicach nag erioed.

Sefydlodd Maggie Keswick Jencks yr elusen ym 1996, gan ei hadeiladu ar y gred na ddylai pobl “golli llawenydd byw yn ofn marw.” Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae cymorth canser Maggie wedi helpu mwy na 4 miliwn o bobl ledled y DU.

henna tattoo

Gyda 27 canolfan, yn cynnwys un yma yng Nghaerdydd, bydd yr arian a godwyd yr wythnos hon yn cael effaith ystyrlon yn lleol ac ymhellach.

Cymerwch ran

Mae Wythnos Elusen Canser Caerdydd wedi bod yn llwyddiant mawr unwaith eto yng Ngholeg Dewi Sant, gyda’r myfyrwyr a’r staff yn uno i gefnogi achos da. .

Er i’r digwyddiad ddirwyn i ben, mae amser o hyd i wneud gwahaniaeth. Gallwch gyfrannu at elusen canser Maggie’s gan ddefnyddio’r ddolen hon neu drwy sganio’r cod QR isod.