Red seats in a cinema

O’r dosbarth i’r diwydiant ffilm, mae un o’n myfyrwyr eisoes yn helpu llywio dyfodol sut caiff ffilmiau eu dosbarthu yn y DU.

Rydym yn hynod falch o Bethan Carter, myfyriwr Cyfryngau yn chweched isaf Coleg Dewi Sant, am ei llwyddiant.

Mae hi wedi llwyddo i ennill lle ar Banel Ieuenctid y British Board of Film Classification mewn proses gystadleuol.

St David's student outside of the BBFC Youth Panel event

Mae’r panel yn casglu ynghŷd dim ond 44 o bobl ifanc o’r DU i rannu eu barn a dylanwadu sut caiff ffilmiau eu dosbarthiad oedran, a sut mae dosbarthu ffilm yn gweithio yn ymarferol.


Llwyddiant Bethan

Dysgodd Bethan, sy’n fyfyriwr Cyfryngau, am y BBFC ar ei chwrs yn y coleg, cyn gwneud ei hymchwil ei hun i ddarganfod mwy am y sefydliad.

Roedd rhaid ymwneud  â phroses gystadleuol er mwyn gwneud cais i ymuno â Phanel Ieuenctid y BBFC,  yn cynnwys creu fideo ohoni ei hun yn ateb cwestiynau am ffilmiau, a mynychu cyfweliad.

Guy giving presentation to group

Gwnaeth ei hastudiaethau chwarae rhan bwysig yn ei pharatoadau.

“Onibai am y wers honno ar reoleiddiad, fyddwn i ddim wedi gwybod am y cwmni a’r holl waith sy’n rhaid ei wneud cyn i ffilm gael ei ryddhau yn swyddogol.”

Teithiodd Bethan i Lundain wedyn, i ddechrau ei gwaith ar Banel Ieuenctid y British Board of Film Classification.


Taith i Lundain

Teithiodd Bethan i Lundain yn ddiweddar i ddechrau ei gwaith ar y panel. Yn ystod yr ymweliad, cymerodd hi ran mewn gweithgaredd dosbarthu ffilm, gan weithio gydag aelodau eraill y panel i benderfynu pa dystysgrif y dylai ffilm ei derbyn.

picture of big ben

Cafodd hi gyfle i sgwrsio â’r cyfwelydd adnabyddus, Ali Plumb, a holi cwestiynau am ei waith yn y diwydiant ffilm.

Yn nes ymlaen cwrddodd Bethan â Llywydd y BBFC, Natasha Kaplinsky, a siaradodd am bwrpas y Panel Ieuenctid.

 


Edrych Ymlaen

Bydd Bethan yn parhau i weithio gyda’r panel dros y misoedd nesaf, gan gyfrannu at drafodaethau a pharhau i ddysgu am sut mae ffilmiau’n cael eu dosbarthu.

Rydym yn falch iawn o gyflawniad Bethan a’r ffordd mae hi wedi tynnu sylw at sut gall myfyrwyr Coleg Dewi Sant gymhwyso eu dysgu mewn lleoliadau yn y byd go-iawn.