Cyn Diwrnod y Canlyniadau, rydyn ni eisiau cynnig arweiniad a chefnogaeth.

Cyn Diwrnod y Canlyniadau, rydyn ni eisiau cynnig arweiniad a chefnogaeth. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. E-bostiwch Launchpad@stdavidscollege.ac.uk neu dewch i’n gweld ni yn y coleg am gymorth wyneb yn wyneb o 8:30am ddydd Iau 13 Awst.

 

Paratowch ymlaen llaw gan ddarllen yr e-bost hwn a’r Arweiniad ar UCAS a Diwrnod Canlyniadau 2026 sydd wedi’i atodi. Mae cyngor defnyddiol gan UCAS hefyd: UCAS Clearing & Results Day.

Cael Mynediad at eich Canlyniadau Coleg

Dydd Iau 13 Awst

 

Rydyn yn argymell yn gryf y dylech chi ddod mewn i’r coleg i gasglu’ch canlyniadau, achos bydd cefnogaeth wrth law i’ch helpu i’w deall a llywio unrhyw benderfyniadau (e.e. yn ymwneud a UCAS) – bydd hyn yn cynnwys staff y Coleg a rhai o’r prifysgolion lleol hefyd. Sylwer, ni ellir rhoi canlyniadau dros y ffôn.

  • Wyneb yn wyneb: Casglwch o’r Coleg, 8:30–11:00am (bydd cefnogaeth ar gael gan staff a rhai prifysgolion). Os daw rhywun i gasglu’ch canlyniadau i chi, rhaid iddyn nhw ddod â llythyr caniatâd wrthoch chi sydd wedi ei lofnodi gennych chi.
  • Ar-lein: Caiff canlyniadau eu he-bostio a’u rhoi ar Cedar o 8:30am (efallai bydd oedi oherwydd bod rhaid danfon nifer fawr o ganlyniadau).

 

Cwestiynu eich Canlyniadau

E-bostiwch: examinations@stdavidscollege.ac.uk

Results Day at St David's College

Diwrnod Canlyniadau TGAU

Dydd Iau 20 Awst

 

Anfonwch dystiolaeth o’ch canlyniadau at eich prifysgolion dewisol (dydyn nhw ddim yn eu derbyn yn awtomataidd). Gallwch chi anfon yr e-bost canlyniadau ymlaen neu anfon llun o’r slip canlyniadau (i’w gasglu o’r Coleg). Ni fydd tystysgrifau ar gael tan yn hwyr yn y flwyddyn galendr.

  1. Ewch i UCAS → Search chosen courseo dan Choose Your Future.
  2. Cliciwch ar Courses / See All.
  3. Dewiswch “I live in Wales” (dyma eich lleoliad byw, nid lleoliad astudio).
  4. Hidlwch am  Clearing.
  5. Galwch linellau cymorth prifysgolion (gwelwch eu gwefannau) i holi am lety sydd ar gael ar gyfer ymgeiswyr Clearing. Gallwch chi ffonio gymaint ohonynt ac yr hoffech chi, ond dim ond un dewis allwch chi nodi ar ôl 1pm ar wefan UCAS.

Mae Clearing UCAS yn diweddaru drwy’r amser; gwiriwch yn aml.

I wneud cais ar gyfer prifysgol fwy cystadleuol defnyddiwch Clearing. Cysylltwch â phrifysgolion gyntaf cyn tynnu nôl oddi wrth eich Dewis Cadarn; unwaith iddo gael ei dynnu nôl does dim modd ei adfer.

Efallai bydd eich prifysgol ddewisol yn eich derbyn beth bynnag; gallai hynny fod ar gyfer y cwrs ddewisoch chi neu gwrs tebyg ond gwahanol (e.e. Gwyddorau Biofeddygol yn newid i Fioleg).

Os na chewch eich derbyn gan y Brifysgol Dewis Cadarn ond byddwch wedi cyrraedd eich Dewis Yswiriant, fe gewch eich derbyn yn awtomataidd; yna gwiriwch a diweddaru’r wybodaeth ar eich cyfrif Cyllid Myfyrwyr os oes angen.

O na, chwiliwch ar Clearinga gwiriwch UCAS Track yn gyson.

Llenwch y ffurflen gais Additional Year of Study 2026 os hoffech chi ddychwelyd i’r Coleg am flwyddyn arall. Bydd ceisiadau’n ail agor ar 13 Awst am 8.00am. (Gallwch ei llenwi yn Gymraeg drwy ddewis iaith ar ben yr holiadur).

Dathliad Gadawyr

 

Bydd Dathliad Gadawyr y Coleg yn cael ei gynnal nos Iau 3 Medi am 7pm yn Eglwys Gadeiriol Fetropolitan Dewi Sant, Caerdydd. Bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn yn y Conglfaen, gyferbyn â’r eglwys gadeiriol.

Cyngor olaf: Byddwch yn agored i gael cynllun wrth gefn ac i dderbyn arweiniad gan bobl dych chi’n ymddiried ynddynt. Gall tîm y Safle Lansio eich cefnogi gydag Addysg Uwch, cyflogaeth, a phrentisiaethau; e-bostiwch Launchpad@stdavidscollege.ac.uk.