Yr wythnos diwetha’, aeth 27 o fyfyrwyr Dewi Sant i Fannau Brycheiniog ar gyfer eu Taith Ymarfer Gwobr Arian Dug Caeredin (DofE), gan roi eu sgiliau mordwyo, cymorth cyntaf a gwaith tîm ar brawf dros dri diwrnod.
Am dridiau fe wynebon nhw lwybrau heriol, gwersylla dros nos a chario popeth oedd angen arnynt, yn cynnwys eu dillad a bwyd, pebyll, matiau a mwy.
Dechreuodd y daith dydd Gwener, gyda’r myfyrwyr yn ymarfer cymorth cyntaf a dod o hyd i’r ffordd cyn mynd am dro tair awr gyda’r staff goruchwyliol.

Darparodd dydd Sadwrn gyfle i’r grwpiau gymryd eu dysgu gam ymhellach. Gyda’r lleiaf o gymorth staff â phosibl, a goruchwyliaeth o bell, cafodd y myfyrwyr eu herio i ganfod eu ffordd yn annibynol a rhoi eu sgiliau cyrchu ar brawf.
Yn ffodus, roedd y tywydd yn garedig a llwyddodd pob grŵp i daclo’r ffordd tuag at ben y Bannau. Gwnaeth un grŵp hyd yn oed lwyddo i goginio nŵdls i ginio, gan fwynhau pryd cynnes o fwyd ar ganol eu taith gerdded chwech awr!
Daeth y diwrnod olaf â’r her fwyaf hyd yn hyn, gyda disgwyl i’r grwpiau gwblhau taith gymhleth gan ddefnyddio’r holl sgiliau a ddysgasant dros y penwythnos. Gwnaeth tri o’r grwpiau argraff arbennig ar y staff gan gwblhau’r daith gyfan heb unrhyw oruchwyliaeth.

Ar ôl cinio, newidiodd yr amodau er gwaeth, gyda gwyntoedd cryf a glaw llorweddol yn gwneud y camau olaf yn fwy heriol byth. Methodd offer rhai o’r grwpiau, ond ymatebon nhw’n wrol i’r heriau.
Er gwaethaf ambell gam gwag ar hyd y ffordd, cwblhaodd pob grŵp y daith gerdded ymarfer mewn hwyliau da. Drwy gydol y cyrch, dangosodd y myfyrwyr wytnwch rhyfeddol, gwaith tîm a sgiliau datrys problemau.
Mae’r profiad wedi darparu paratoadau gwerthfawr ar gyfer eu taith dan asesiad mewn ychydig wythnosau, lle gallant roi’r holl sgiliau y gwnaethon nhw ymarfer ar waith.
Dymunwn bob hwyl i’r 27 myfyriwr ar eu cyrch dan asesiad ac edrychwn ymlaen at glywed am eu hanturiaethau!