O ynni adnewyddadwy i adeiladu cynaliadwy, archwiliodd myfyrwyr gyfleoedd gyrfa cyffrous yn Ffair Gyrfaoedd Gwyrdd yr wythnos ddiwethaf.
Daeth y digwyddiad â chyflogwyr a sefydliadau o bob rhan o’r sector gwyrdd sy’n tyfu ynghyd, gan gynnwys meysydd ailgylchu, peirianneg ac ynni adnewyddadwy.
Ymwelodd y myfyrwyr â stondinau, siarad â chynrychiolwyr, a darganfod prentisiaethau, cyrsiau prifysgol a llwybrau gyrfa posibl.

Un o’r nifer o sefydliadau oedd yn bresennol yn y ffair oedd Project Zero, rhaglen newid hinsawdd Bro Morgannwg. Mae’r sefydliad yn cynnwys amrywiaeth o dimau sy’n ymroddedig i fynd i’r afael â materion amgylcheddol, yn enwedig newid hinsawdd. Mae rhai timau yn gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion a cholegau i helpu i leihau’r defnydd o ynni a dŵr, tra bod y Tîm Gwastraff yn canolbwyntio ar wella arferion ailgylchu.

Mae Project Zero yn credu bod addysgu pobl ifanc am faterion amgylcheddol yn yr ysgol yn cynyddu eu tebygolrwydd o fabwysiadu arferion cynaliadwy bob dydd. Mae’r sefydliad hefyd yn cynnal Pwyllgor Eco sy’n annog pobl ifanc i rannu syniadau a herio arferion anghynaliadwy. Mae aelodau’n credu y gall y genhedlaeth iau chwarae rhan sylweddol wrth greu dyfodol mwy gwyrdd a chael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau.
Mae’r coleg hefyd yn cynnal Cymdeithas Amgylchedd gynhwysol, sy’n anelu at wella cynaliadwyedd y coleg. Mae’r gymdeithas yn frwdfrydig dros ddiogelu bywyd gwyllt ac annog disgyblion i chwarae rhan fwy gweithredol wrth wella’r amgylchedd. Yn aml, mae’r gymdeithas yn trefnu stondin yn y Ffair Nadolig, lle maent yn gwerthu planhigion a chynhyrchion a wneir o ddeunyddiau cynaliadwy. Mae’r arian a godir yn cyfrannu at fainc newydd yng nghefn y coleg, lle gall myfyrwyr fwynhau natur.

Mae’r gymdeithas hefyd yn dangos y ffilm ‘People’s Briefing’ am fioamrywiaeth, er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelu ecosystemau naturiol. Mae eu hymrwymiad i gynaliadwyedd wedi arwain at ennill Gwobr Baner Werdd, ac maent yn gobeithio parhau i wella amgylchedd y coleg drwy ychwanegu mwy o blanhigion i ystafelloedd dosbarth ac o amgylch y campws.
Roedd yr ymateb i’r ffair yn wych, gyda myfyrwyr yn dangos diddordeb mewn meysydd fel gwirfoddoli a pheirianneg amgylcheddol.

Disgrifiodd y myfyrwyr y digwyddiad fel un ysbrydoledig, gyda’r arddangoswyr yn cynnig cyngor gwerthfawr ar lwybrau gyrfa a chyfleoedd o fewn y sector gwyrdd sy’n tyfu.
Cafodd taflenni gwybodaeth ac adnoddau eraill dderbyniad arbennig o dda, gan roi mwy o fanylion i fyfyrwyr am brentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi.
Dangosodd sawl myfyriwr ddiddordeb hefyd mewn cael profiad gwaith drwy sefydliadau yn y ffair, gan dynnu sylw at sut roedd y digwyddiad yn annog pobl ifanc i ymgysylltu mwy â’u dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.

Roedd y ffair yn llawn gwybodaeth ac ysbrydoliaeth, gan roi cyfle i’r myfyrwyr archwilio llwybrau gyrfaoedd posible tra’u bod yn dysgu mwy am faterion amgylcheddol amrywiol.
Gadawodd nifer â dealltwriaeth well o’r cyfleoedd ar gael issynt a sut y gallant helpu i wneud dyfodol gwyrddach.
