Yr wythnos hon, daeth staff a myfyrwyr yng Ngholeg Dewi Sant ynghyd i ddangos cefnogaeth i Gristnogion sy’n wynebu erledigaeth ledled y byd.


Beth yw Dydd Mercher Coch?

Ym mis Tachwedd 2015, goleuodd yr elusen Gatholig ryngwladol, Aid to the Church in Need (ACN), gerflun enwog ‘Crist y Gwaredwr’ yn Rio de Janeiro â golau coch, er mwyn codi ymwybyddiaeth o erledigaeth Cristnogion yn Irac.

Y flwyddyn ganlynol, goleuodd ACN Ffynnon Trevi yn Rhufain – sy’n enwog ledled y byd – â golau coch hefyd.

Ers 2016, mae nifer cynyddol o henebion ac eglwysi ledled y byd wedi gwneud yr un peth.

Yn 2025, cynhaliwyd dros 100 o ddigwyddiadau ledled y byd fel rhan o’r ‘Wythnos Goch’, gyda mwy na 10,000 o gyfranogwyr uniongyrchol, a thros 635 o eglwysi a thirnodau wedi’u goleuo mewn coch.

Mae’r lliw a ddewiswyd ar gyfer yr wythnos yn cynrychioli gwaed merthyron Cristnogol, ac yn ein hatgoffa o’r rhai sydd wedi dioddef neu wedi colli eu bywydau oherwydd eu ffydd.

Mae hefyd yn gyfle i’r gymuned Gatholig ehangach sefyll mewn undod â Christnogion sy’n cael eu herlid, a phawb arall na allant ymarfer eu ffydd yn rhydd.


Sut gwnaethon ni nodi Dydd Mercher Coch

Fel y llynedd, daeth ein staff a myfyrwyr at ei gilydd unwaith eto i nodi Dydd Mercher Coch yng Ngholeg Dewi Sant.

Yn ystod amser cinio ddydd Mawrth, sefydlodd ein dysgwyr stondinau yn y ‘Pant’ a gwerthu cardiau Nadolig a gleiniau gweddi.

Bydd yr arian a godwyd o’r stondinau yn cael ei roi i ‘Aid to the Church in Need’, i gefnogi ei waith pwysig gyda Christnogion sy’n wynebu erledigaeth ledled y byd.

Ddydd Mercher, anogwyd myfyrwyr a staff i ddod i’r coleg yn gwisgo coch. Yn ystod amser cinio, arweiniodd y Tad Benny Offeren arbennig yng nghapel y coleg.

Roedd yn seremoni hynod deimladwy, gyda staff a dysgwyr yn canolbwyntio eu gweddïau ar Gristnogion sy’n cael eu herlid, ac ar bawb sy’n dioddef oherwydd eu ffydd ledled y byd.

Creodd goleuadau coch anarferol y capel awyrgylch mwy myfyriol, gan roi cyfle i gymuned ein coleg ddod at ei gilydd mewn gweddi dros y rhai sydd mewn angen.

Fore Iau, parhaodd ein dysgwyr i drafod themâu a phwysigrwydd yr ‘Wythnos Goch’ (Red Week) yn ystod eu sesiynau ‘Cyd-gerdded Ysbrydol’.

Ysgrifennon nhw am genhadaeth yr elusen,  i dynnu sylw at y darnau o’r Beibl y maent yn eu cysylltu fwyaf â’r achos hwn.

Mae un darn, sy’n arbennig o berthnasol, yn dod o Lyfr Deuteronomium:

“Byddwch yn gryf a dewr. Peidiwch bod ag ofn a pheidiwch panico. Mae’r Arglwydd eich Duw yn mynd gyda chi. Fydd E byth yn eich siomi, nac yn troi ei gefn arnoch chi.”

Deuteronomiwm 31:6


Wythnos i fyfyrio

Atgoffodd Dydd Mercher Coch ni i beidio byth â chymryd rhyddid crefyddol yn ganiataol.

Fel cymuned coleg Catholig, rydym yn rhoi ein ffydd ar waith drwy ddangos tosturi tuag at y rhai sy’n dioddef, a thrwy eu cofio yn ein gweddïau.

Drwy godi arian, myfyrio a dod at ein gilydd ar gyfer y Offeren Sanctaidd, mae ein staff a’n dysgwyr wedi dangos eu cefnogaeth i Gristnogion sy’n cael eu herlid, ac wedi eu hatgoffa nad ydynt wedi cael eu hanghofio.