Bu’n dymor gwirioneddol ragorol i ddau o’n chwaraewyr pêl-droed eleni, Olivia Barnett ac Ellie Gunney, pan ddaethant hwy i’r brig i arwain y ffordd yn Nhîm menywod y Coleg.
Mae Olivia Barnett wedi cael tymor nodedig yn chwarae dros glwb pêl-droed Pontypridd, lle cafodd hi ei chydnabod yng nghystadleuaeth raglen ‘Sgorio’, sef ‘Gôl y mis’, ‘nôl ym mis Tachwedd, ar ôl iddi sgorio gôl odidog yn erbyn Port Talbot.
Hyd yn hyn, mae ei gyrfa bêl-droed wedi bod yn un gampus, pan chwaraeodd hi dros Gymru ar lefel bêl-droed ieuenctid, gan gynnwys chwarae yn Nhwrnamaint Bob Docherty, yn ogystal ag arddangos ei dawn ar y cae yng Nghanolfan Datblygu Merched y De ac Ysgolion Caerdydd a’r Fro – bu Olivia’n llwyddiannus wrth ennill lle i gynrychioli Colegau Cymru yn erbyn Lloegr ar 30ain Mawrth.
Fel chwaraewr a gafodd ei dewis yn aml i chwarae dros Academi Bêl-droed y Saint eleni, roedd Olivia hefyd yn gapten ym mhob gêm a chwaraewyd hyd yma.
Da iawn i Ellie Gunney am gael ei dewis i fod yn rhan o Wersyll Hyfforddi cyntaf Cymru. (Mae Ellie eisoes wedi chwarae dros Gymru ar lefel bêl-droed ieuenctid yn Nhwrnamaint Bob Docherty, a chafodd hi ei dewis i chwarae yng ngemau Ysgolion Caerdydd a’r Fro a Chanolfan Datblygu Merched y De).
Mae Ellie hefyd wedi chwarae dros Dîm Pêl-droed Pontypridd yn Uwch-Gynghrair Merched Cymru (Adran), ac eisoes wedi dangos ei medr ymosodol ar y cae mewn gemau blaenorol. Bydd Ellie yn derbyn ei chap cyntaf ar 30ain Mawrth.
Ar ôl sgorio 5 gôl eleni ar gyfer Academi Bêl-droed y Saint, mae Ellie wedi helpu ei chyd-chwaraewyr i gyrraedd y rownd gynderfynol yn Nhwrnamaint Coleg Cymru 7v7
Dywedodd Josh Liddiard, Hyfforddwr Academi Bêl-droed y Saint,
“ Rydym yn eithriadol o falch o’r gwaith caled a’r sawl gamp y mae Olivia ac Ellie wedi’u cyflawni eleni”.
Er yr holl glodfori a wnawn am gyraeddiadau unigol, rhaid cydnabod y gwaith caled a ddangosir gan bob chwaraewr yn Nhîm y menywod a’r dynion yn ystod eu sesiynau hyfforddiant a’r gemau swyddogol. Gobeithiwn mai dim ond y cychwyn yw hyn i’n chwaraewyr pêl-droed sy’n cynrychioli Colegau yng Nghymru.