Mae Coleg Catholig Dewi Sant wedi cyhoeddi Uwch Dîm Arweinyddiaeth (SLT) wedi ailstrwythuro ac adnewyddu yn barod ar gyfer lansiad ei gynllun strategol newydd, Ysbryd a Gwirionedd 2025-2029, y disgwylir iddo gael ei gymeradwyo’n ffurfiol gan y Llywodraethwyr ym mis Gorffennaf.

Mae’r ailstrwythuro’n adlewyrchu cenhadaeth y coleg sydd wedi ei adnewyddu, i feithrin dysgwyr mewn “ffydd, doethineb ac uniondeb,” wrth gwrdd â’i amcanion uchelgeisiol ar draws cynaliadwyedd, llwyddiant y dysgwr, ac addysg gynhwysol Gatholig.

Bydd y Pennaeth Geraint Williams, sy’n gwasanaethu hefyd fel Prif Weithredwr i’r Coleg, yn arwain Tîm Profiad y Dysgwr newydd ei ffurfio, gan ffocysu ar gyfoethogi bywyd y myfyriwr drwy ymdrechion cyson mewn cefnogaeth academaidd, llesiant, gweithgareddau cyfoethogi a llais y dysgwr, gan sicrhau profiad dysgu holistaidd ac effeithiol i’r myfyriwr.

Ymysg y newidiadau mwyaf arwyddocaol mae penodiad y Pennaeth Cysylltiol Lynne Cleary i arwain yr ardal newydd ei sefydlu, Stiwardiaeth Gynaliadwy. Mae’r rôl hon yn alinio ag ymrwymiad y Coleg at gyfrifoldeb amgylcheddol, wedi’n hysbrydoli gan Laudato Si y Pab Ffransis, a bydd yn cael trosolwg o ddatblygiad yr ystâd a rhaglen gyfalaf y coleg yn unol â’i nodau sero-net.

 

Bydd y Pennaeth Cynorthwyol Batool Akmal yn rheolwr llinell i’r Deon Academaidd newydd, yn cefnogi datblygiad academaidd holistaidd y dysgwyr wrth arwain ar ddiwylliant dysgwyr ac ethos y gymuned.

Batool Akmal

Batool Akmal

Bydd y Dirprwy Bennaeth Mark Breslin yn cadw ei arweinyddiaeth strategol ar TG, data, asesu a chyllid, ac yn ychwanegu cyfrifoldeb gweithredol dros reprograffeg ac adnoddau dysgwyr. Yn ogystal, bydd yn cydweithio â Ruth Jones ar y rhaglen ryngwladol sy’n tyfu’n barhaus.

Bydd Rachel Singleton yn camu i rôl yr Is-bennaeth a Phrif Swyddog Ariannol (CFO), gan ymestyn ei goruchwyliaeth bresennol o gyllid, gwasanaethau myfyrwyr ac arlwyo i gynnwys risg, cydymffurfio, ac archwilio, gan gryfhau gwytnwch cyllidol a llywodraethiant y coleg.

Y Pennaeth Cynorthwyol Ruth Jones sy’n dod yn Brif Swyddog Gweithredu (COO) gyda chyfrifoldeb ychwanegol am fyfyrwyr rhyngwladol a rheoli llinell y Deon Dysgu Galwedigaethol a Sgiliau, gan ledu ei gorchwyl strategol er mwyn datblygu cynnig dysgu cynhwysol y coleg ymhellach.

Ychwanegiad newydd i’r SLT yw Haley Hughes, Cyfarwyddwr Cynnal Dysgu ac ALNCo, sy’n ymuno er mwyn sicrhau bod dysgwr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu hystyried yn llawn yn holl brosesau gwneud penderfyniadau’r coleg, yn unol ag ymrwymiad y coleg i gynhwysiant ac ecwiti, gyda ffocws y cynllun strategol ar addysg gynhwysol.

Mae’r ailstrwythuro’n nodi carreg filltir arwyddocaol wrth i Goleg Dewi Sant baratoi i weithredu Ysbryd a Gwirionedd 2025-2029, cynllun sydd â’i wraidd mewn dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig sy’n ffocysu ar ffydd, cynaliadwyedd, ffurfiant dysgwyr, a pherthyn mewn cymuned.  Mae’n adlewyrchu gweledigaeth y coleg i fod yn “oleudy o ffydd a dysg”. Mae’r strwythur rheoli newydd yn paratoi Coleg Dewi Sant i gwrdd â heriau’r dyfodol gydag undod, pwrpas a dewrder.