Cael Mynediad i dy Amserlen Arholiadau
Byddi di’n gallu cael mynediad at amserlen dy arholiadau drwy CEDAR. Gwna’n siŵr dy fod yn gwirio hyn yn rheolaidd, gan y bydd amserlenni’n parhau i gael eu diweddaru drwy gydol mis Mawrth ac Ebrill, gan gynnwys gwybodaeth am ystafelloedd arholiadau a threfniadau eistedd.
Os byddi di’n gweld “Goruchwyliaeth” ar dy amserlen, gwna’n siŵr dy fod yn gwirio e-byst y coleg yn rheolaidd am ragor o wybodaeth am y trefniadau.
Bydd arholiadau’n dechrau am 09:30 ar gyfer sesiwn y bore ac am 13:30 (1:30pm) ar gyfer sesiwn y prynhawn. Er mwyn helpu dy ddiwrnod i redeg yn esmwyth, cyrhaedda o leiaf 20 munud cyn yr amser cychwyn fel bod gen ti amser i ddod o hyd i dy sedd ac ymgartrefu cyn i’r arholiad ddechrau.
Gall cyrraedd yn hwyr i arholiad amharu ar fyfyrwyr eraill, felly gwna’n siŵr dy fod yn caniatáu digon o amser i gyrraedd a bod yn barod i ddechrau ar amser.
Gyda phwy i gysylltu
Os oes cwestiynau neu ofidiau gyda ti am dy amserlen arholiadau, dylet ti gysylltu â’r Tîm Arholiadau.
Gwna hynny drwy ebostio examinations@stdavidscollege.ac.uk, neu siarada â Ms Jackson, sy’n gweithio ar drydydd llawr y brif adeilad.
Os wyt ti’n rhedeg yn hwyr ar ddiwrnod dy arholiad, plîs rho wybod i’r coleg cyn gynted ag y gelli di.
Llesiant
Gall tymor yr arholiadau fod yn gyfnod heriol a gall deimlo’n llethol ar brydiau. Mae’n bwysig iawn i ofalu amdanat ti dy hun a blaenoriaethu dy lesiant dros y cyfnod.
Mae sawl ffordd gelli di gefnogi dy lesiant, yn cynnwys:
Blaenoriaethu Cwsg: Mae cael digon o gwsg yn hanfodol, yn enwedig yn ystod tymor yr arholiadau pan fydd angen i ti fod ar dy orau. Anela at gael 7-9 awr o gwsg bob nos er mwyn dy helpu i gadw ffocws, canolbwyntio, ac er dy les cyffredinol.
Bwyta’n dda ac Yfed digon: Bydd cynnal deiet gytbwys ac yfed digon o ddŵr yn dy helpu i gadw lefelau ynni cyson a chefnogi dy ganolbwyntio wrth i ti adolygu a sefyll arholiadau.
Ymarfer corff: Mae symud y corff bob amser yn bwysig, ond gall fod yn arbennig o llesol dros gyfnod yr arholiadau. Mae ymarfer corff rheolaidd yn cefnogi llesiant corfforol a meddyliol, gan helpu lleihau straen, gwella ffocws a chadw agwedd bositif.
Cymryd hoe yn rheolaidd: Tra bod adolygu yn bwysig, mae hi’r un mor bwysig i atal llosgi allan. Gall cymryd hoe cyson wrth astudio dy helpu i gadw ffocws a gwneud dy adolygu’n fwy effeithiol.
Cymdeithasu: Er bod arholiadau ac adolygu’n gallu llenwi llawer o dy amser, mae hi’n bwysig i dreulio amser gyda dy ffrindiau a theulu o hyd. Bydd gwneud amser i hyn dy helpu i ymlacio, a chadw cydbwysedd trwy gydol adeg yr arholiadau.
Gofyn am gymorth: Mae gofalu am dy les yn bwysig drwy’r amser, ond mae’n arbennig o bwysig dros gyfnod yr arholiadau. Os wyt ti’n teimlo dan straen, yn ofidus neu’n bryderus, neu os wyt ti angen rhywun i siarad â, mae cefnogaeth ar gael. Anogir di i siarad â dy diwtor bugeiliol, athro neu aelod o’r Tîm Lles.
Cysylltiadau
Carys Jones – Rheolwr Lles
02920 431 824
CJones@stdavidscollege.ac.uk
Yr Ystafell Les