Llongyfarchiadau i Mr Raggett, ein hathro Troseddeg, am ennill gwobr “Athro neu Gynghorydd Mwyaf Ysbrydoledig” Prifysgol De Cymru ar gyfer 2023.

Mae addysg yn daith drawsnewidiol, a thu ôl i bob myfyriwr llwyddiannus mae athro ysbrydoledig. I gydnabod eu gwaith caled a’u cyfraniadau trwy gydol y flwyddyn, cynhaliodd Prifysgol De Cymru eu Gwobrau Athrawon a Chynghorwyr PDC blynyddol, digwyddiad i ddathlu addysgwyr eithriadol sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl i gyfoethogi a datblygu addysg a phrofiad eu myfyrwyr trwy gydol eu taith academaidd yn y coleg neu’r ysgol.

Enwebwyd Mr Raggett gan nifer o’i fyfyrwyr, sy’n dangos yr effaith hynod o gadarnhaol a’r ysbrydoliaeth y mae Mr Raggett yn amlwg wedi’i gael ar gymuned Coleg Dewi Sant.

Am y wobr, dywedodd y Dirprwy Bennaeth Lisa Newman, “Llongyfarchiadau i Mr Raggett ar y gamp wych hon; gwobr haeddiannol iawn sy’n cydnabod yr angerdd a’r brwdfrydedd sydd ganddo dros addysgu a’i ymrwymiad i les dysgwyr.”

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn y Ganolfan Gynadledda ar Gampws Trefforest Prifysgol De Cymru ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023, lle’r oedd llawer o’r athrawon a fynychodd wedi dod o wahanol sefydliadau addysgol, gan gynnwys ein Mr Raggett.

Byddai pob un o’r enillwyr yn derbyn gwobr o £500 tuag at barhau â’u datblygiad proffesiynol eu hunain neu fentrau lles staff yn eu hysgol neu goleg.

“Byddwn yn defnyddio’r wobr ariannol i helpu’r genhedlaeth nesaf o blant,” dywedodd Mr Raggett, sy’n ceisio canolbwyntio ei weledigaeth ar ddatblygiad y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yng Ngholeg Dewi Sant yn y dyfodol, gan alluogi ein myfyrwyr i ymdrechu ymhellach a chyflawni’n uwch nag o’r blaen.

Mae’r teitl hwn yn amlygu gallu Mr Raggett i ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr wrth iddynt fynd ar drywydd gwybodaeth a thwf personol yn ddysgwyr ac unigolion cyflawn ar eu taith academaidd drwy Goleg Dewi Sant. Rydym yn falch o weld y gwaith caled a’r ymrwymiad y mae Mr Raggett wedi’u dangos yn cael eu cydnabod.