Mae’r Gaplaniaeth yn ychwanegu dimensiwn arall ac unigryw i’ch profiad addysgol yn y Coleg. Mae’n eich galluogi i gael profiad dysgu ehangach a mwy ystyrlon yn ogystal â threfnu pererindodau, enciliadau a dyddiau tawel sy’n agored i bob myfyriwr.
Mae Caplaniaeth yn ymwneud â gofal a chefnogaeth. Mae’n ymwneud â chadw cwmni i chi ar eich taith drwy’r Coleg. Mae’n ymwneud â chynnig cefnogaeth a chyfleoedd i ddatblygu’n bersonol ac yn ysbrydol. Mae’n ymwneud â chreu profiad addysgol “Bywiog” trwy greu cymuned lle gall llawnder bywyd gael ei werthfawrogi a’i fyw.
Beth yw Coleg Catholig?
Cymuned ydy Coleg Catholig sy’n ymdrechu i fod yn wirioneddol ddynol lle gall pobl dyfu a datblygu mewn amgylchedd cartrefol a gwerthfawrogol.
Mae ysbryd yr Efengyl wrth wraidd ein ffordd o fyw, ein cysylltiadau a’n cymuned. Trwy hyn, rydyn ni’n cadarnhau gwerth pob aelod o gymuned y Coleg – ein myfyrwyr ac ein cyflogai – ac yn gofalu am y person cyfan ac unigrywiaeth yr unigolyn. Mae hyn yn golygu rhannu cryfderau ein gilydd a bod yn sensitif i wendidau pobl eraill, yn ogystal ag ymdrechu i gyflawni’r disgwyliadau uchaf ar gyfer ein twf a’n cyrhaeddiad personol.
Myfyrdod Ysbrydol
Mae pob myfyriwr sy’n dod i Goleg Dewi Sant yn dod o brofiadau a safbwyntiau gwahanol ar ffydd. Ein bwriad yw, hen ots am eich cefndir, fod gennych gyfle i gysylltu â chwestiynau mwyaf bywyd o ongl sy’n adlewyrchu safbwynt eich hun.
Am y rheswm hwn, rydyn ni wedi datblygu cwrs Crefyddol i bob myfyriwr sy’n cyfuno’r dosbarth gyda gwasanaeth, theori gydag ymarfer, wrth gynnig opsiynau sy’n atebol am eich diddordebau gwahanol a mannau cychwyn gyda chred. Enw’r cwrs yw ‘Myfyrdod Ysbrydol’, a gredwn ei fod yn cynrychioli cyflwyniad cyffroes i’r Ffydd Gatholig fel mae pobl yn ei byw hi heddiw.
Gweddi ac Addoliad
Mae’r offeren yn cael ei ddathlu bob amser cinio Dydd Gwener yng Nghapel y Coleg. Mae croeso i bawb fynychu ac ymuno â ni, gan gynnwys teuluoedd a ffrindiau. Caiff yr offeren ei dathlu ar brif ddyddiau gŵyl yn ogystal.
Mae cyfleoedd am adlewyrchiad personol yn cael ei chynnig i bob myfyriwr yng Nghapel y Coleg yn ystod prif dymhorau’r flwyddyn. Rydym yn ceisio gwneud yr adlewyrchiadau dyddiol yma, gwasanaethau tymhorol a litwrgïau mor hygyrch ag sy’n bosib, tra’n fod yn ffyddlon i’n treftadaeth Gatholig.
Crefyddau Eraill
Mae bod yn Goleg Catholig yn golygu ein bod yn agored a chynhwysol yn ein hymagwedd. Mae’r weledigaeth Gatholig o addysg yn gyffredinol ei natur, mae’n cynnwys pawb ac mae’n wirioneddol ddyneiddiol.
Mae croeso i fyfyrwyr o grefyddau eraill i Goleg Dewi Sant. Rydyn ni’n parchu gwirioneddau a gwerthoedd sanctaidd crefyddau eraill yn fawr iawn ac yn cymell y cyfryw fyfyrwyr i gadw eu ffydd.
Mae myfyrwyr o grefyddau eraill hefyd yn cael eu cymell i gadw at eu harferion ysbrydol a’u gweddïau.
Hamad Abdelkadir, myfyriwr Chweched Uwch, ar ei amser yng Ngholeg Dewi Sant:
“Mae bod yn fyfyriwr Mwslimaidd yng Ngholeg Catholig Dewi Sant wedi bod yn brofiad gwych. Rwy’n ymarfer fy ffydd heb wynebu unrhyw broblem o gwbl. Yr oedd yn brofiad cyfoethog a byddai’n argymell Mwslemiaid i ddod yma. Mae’r Coleg yn deall yn llwyr natur ac anghenion y rhai sy’n ymarfer y ffydd Islamaidd ac yn gwneud ei orau i ddarparu ar eu cyfer.”
Estyn allan yn Fyd-eang
Ym mis Gorffennaf mae nifer o fyfyrwyr Dewi Sant yn gwirfoddoli i ymuno â phobl ifanc eraill y DU i weithio ar brosiectau adeiladu ystafelloedd dosbarth yn Affrica neu Asia.
Maen nhw’n treulio 5 wythnos yn byw mewn pentrefi gwledig a gweithio gyda’r bobl leol i adeiladu ystafelloedd dosbarth. Maen nhw hefyd yn cael cyfle i addysgu Saesneg sylfaenol i blant ifanc lleol. Yn ystod y blynyddoedd diweddar bu’r myfyrwyr yn gweithio yn Kenya, Ghana ac Uganda.
Mae Coleg Dewi Sant wedi helpu i ariannu ac adeiladu clinig iechyd yn Nhanzania mewn partneriaeth gyda’r offeiriaid Rosminiaidd yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cynnig triniaethau a fydd yn achub bywydau trigolion pentrefi gwledig.
Mae’r Coleg yn cefnogi prif ddigwyddiadau codi arian drwy gydol y flwyddyn ac mae perthynas agos rhwng y coleg a CAFOD, sef Asiantaeth Gatholig dros Ddatblygiad Tramor.
Tîm Caplaniaeth Fyfyrwyr
Mae myfyrwyr o gefndiroedd eang yn ffurfio’r Tîm Caplaniaeth Fyfyrwyr. Rydyn nhw’n hyrwyddo Bywyd a Chenhadaeth Gatholig y Coleg trwy: godi ymwybyddiaeth am faterion ac ymgyrchoedd pwysig; cefnogi digwyddiadau a gweithgareddau elusennol; a dathlu’r dreftadaeth ysbrydol amrywiol sydd gennym o fewn y Coleg. Maent hefyd yn cefnogi a’n adolygu’r litwrgi a’r cyfleoedd i fyfyrwyr allu gweddïo. Mae’r myfyrwyr yn rhannu eu sgiliau, talentau, a’u profiad er mwyn ceisio cyfoethogi bywyd y Coleg.
Diwrnodau Tawel
Caiff pob myfyriwr gyfle i gael diwrnod tawel o orffwys, ymlacio ac adnewyddiad mewn lle heddychlon a phrydferth yn y mynyddoedd tu allan i Aberdâr neu ar dir tangnefeddus Mynachlog Llantarnam. Cewch fynd am dro, cyfeiriadu a pheth cyfnodau tawel yn ystod y dydd.
Mae’n gyfle i chi fynd i ffwrdd o’r ddinas gyda’ch ffrindiau ac i fwynhau hedd a thawelwch prin. Mae’n ymwneud ag annog pob person i fyfyrio ar a phrofi llawnder bywyd.