Mae Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant yn rhedeg dau lwybr bws. Gall fod myfyrwyr sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili yn gymwys am bás bws am ddim.

Llwybrau Bws a Thocynnau

Mae Coleg Dewi Sant yn cynnig cludiant i fyfyrwyr sy’n byw yn ardal Caerffili a Bro Morgannwg.

Gall myfyrwyr sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili fod yn gymwys am docyn bws yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i ymgeisio.

Darperir cludiant i fyfyrwyr sy’n byw yn RhCT gan gyngor RhCT.

 

Gall fod cymorth costau teithio gan y gronfa FCF ar gyfer pob myfyriwr sy’n byw 3 milltir neu ragor o’r coleg- os gwelwch yn dda ewch i weld Gwasanaethau’r Myfyrwyr am ragor o wybodaeth.

Caiff pás teithio neu gymorth ariannol ei ddarparu gan y coleg ar ran yr awdurdodau lleol canlynol, ond dylech hefyd gyfeirio at bolisi O’r Cartref i’r Ysgol/Coleg eich awdurdod lleol am ragor o wybodaeth ac arweiniad.

Cais Tocyn Bws Coleg

I wneud cais am docyn bws Coleg ar gyfer Hengoed drwy Gaerffili/Caerffili os gwelwch yn dda, cliciwch yma

 

Tocynnau Bws Coleg (ôl-16): Caerffili – Tocyn Teithio Coleg

Am Amserlen Hengoed Thornhill os gwelwch yn dda, cliciwch yma.

Am Amserlen Caerffili os gwelwch yn dda, cliciwch yma.

I gael mynediad at amserlenni Rhondda Cynon Taf os gwelwch yn dda, cliciwch yma.

Trafnidiaeth – Coleg: Rhondda Cynon Taf – Cludiant Ysgolion a Cholegau

Amserlen (S46) Llandochau via Penarth, cliciwch yma.

Amserlen (S47) y Barri,  cliciwch yma.

Amserlen (S48) Llanilltud Fawr via Gwenfô, cliciwch yma.

 

Darperir bysiau i fyfyrwyr o Fro Morgannwg gan y cyngor yn rhad ac am ddim, cyhyd â bod myfyrwyr yn byw yn yr ardaloedd hynny.

Bro Morgannwg – Tocyn Teithio Coleg

Ddim yn Gymwys gyda’r Awdurdod Lleol?

 

 

Rhondda Cynon Taf – Gallwch geisio am sedd ar y bws drwy Gyngor Sir Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf

Cost llawn £147.30 (wedi’i godi’n llawn am y flwyddyn academaidd neu pro rata yn ôl dyddiad rhyddhau’r sedd.)

Caerffili  – Gwnewch gais drwy Goleg Dewi Sant.

Cost llawn £330 y flwyddyn (gall fod ffyrdd eraill o dalu ar gael.)

Gostyngiadau Teithio

 

Disgownt Teithio ar gyfer pobl ifanc 16-21 oed

Yn ychwanegol, gall myfyrwyr ymgeisio ar-lein am gerdyn sy’n rhoi disgownt ar eu teithiau bws.

 

Ewch arlein a chymerwch gipolwg ar: https://mytravelpass.gov.wales

Wrth arddangos cerdyn MyTravel, mae’n caniatáu ichi brynu tocynnau ar fysiau NAT a Chaerdydd gyda disgownt hyd at 33%.

 

TfW 16-17 Saver Pass

The TfW 16-17 Saver gives 50% off Standard Season, Off-Peak, Advance and Anytime tickets for everyone aged 16 and 17.

 

Dilynwch ni

 

Dilynwch ni ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid a thrafnidiaeth.