“Dydy dod yn Ffoadur byth yn ddewis, y dewis yw sut dyn ni’n ymateb.”

Dyna oedd thema’r Gystadleuaeth Columban i Ysgolion  eleni ac yma yng Ngholeg Dewi Sant rydyn yn falch o ddathlu Adriana, a enillodd ail wobr yn genedlaethol am ei thraethawd pwerus yr archwilio profiad y ffoadur, ffydd ac urddas dynol drwy Ddysgeidiaeth Gymdeithasol Catholig.

Mae Cystadleuaeth y Columban ar gyfer ysgolion yn gwahodd myfyrwyr ledled Prydain ac Iwerddon i fyfyrio ar faterion bydeang megis mudo, cyfiawnder ac urddas dynol gan ddefnyddio egwyddorion Dysgeidiaeth Gymdeithasol Catholig.

Safodd traethawd Adriana’s allan am ei onestrwydd, dewrder ac adlewyrchiad meddylgar ar urddas pob person a phresenoldeb Duw mewn gweithredoedd caredig.

Myfyrdod Pwerus ar Brofiad y Ffoadur

Yn ei thraethawd, rhannodd Adriana ei phrofiad hi fel ffoadur, gan ddisgrifio sut gadawodd hi El Salvador yn ddeuddeg oed ar ôl i drais gangiau wneud bywyd yn beryglus i’w theulu. Gan fyfyrio ar y penderfyniad anodd hwnnw, ysgrifenodd:

“Dydy dod yn ffoadur byth yn ddewis. Nid oes neb yn deffro a phenderfynu gadael popeth maen nhw’n ei nabod ar eu hôl. Does neb yn breuddwydio am ddod yn ffoadur mewn gwlad ddieithr lle mae popeth yn teimlo’n estron. Ond pan fydd pob gobaith at y dyfodol yn diflannu, gadael yw’r unig ddewis er mwyn goroesi. Rydw i’n gwybod hyn, oherwydd i fy nheulu a finnau ei brofi ein hunain.”

A drone shot of students and staff holding hands in a circle for 'World Refugee Week'

Wedi cyrraedd y DU, gwynebodd Adriana lawer o heriau sy’n rhan o brofiad y ffoadur: addasu i iaith newydd, llywio drwy amgylcheddau dieithr, ac weithiau teimlo’n anweledig neu’n ynysig. Er hyn, darganfu drugaredd a charedigrwydd gan rhai o’i chwmpas.

“Roedd adegau pan oeddwn i’n teimlo’n anweledig a doeddwn i ddim yn teimlo mod i’n perthyn unrhywle. Ond gwnaeth pob gweithred drugarog gan bobl wneud i fi deimlo wedi fy ngweld. Sylweddolais i taw sut dyn ni’n ymateb yw’r dewis. Gwnaeth eu holl weithredoedd adfer fy hyder a fy atgoffa o fy ngwerth fy hun. ”

Dysgeidiaeth Gymdeithasol Catholig a’r Urddas Dynol

Cryfder allweddol ei thraethawd yng Nghystadleuaeth Ysgolion y Columban oedd y ffordd feddylgar wnaeth hi ymgysylltu â Dysgeidiaeth Gymdeithasol Catholig, yn enwedig egwyddor urddas dynol.

“Mae urddas gan bob person dynol, gan fod pob un wedi ei wneud yn llun a delw Duw. Nid yw urddas yn ddibynnol ar genedligrwydd, iaith neu gymhwyster person, ac nid yw’n diflannu pan fo rhywun yn dod yn ffoadur.”

Archwiliodd Adriana egwyddorion cydsafiad a’r dewis blaenoriaethol i’r tlawd, syniadau creiddiol i Ddysgeisiaeth Gymdeithasol Catholig sy’n galw ar Gristnogion i gofalu am y rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas.

“Mae’r dewis blaenoriaethol i’r tlawd yn ein hatgoffa bod cariad Duw yn fydeang, ac mae’r lles cyffredin yn dysgu bod rhoddion y cread yn perthyn i bawb, ac ni ddylai unrhywun gael eu gwrthod rhagddynt. ”

Cefnogaeth gan Gymuned y Coleg

Hoffai Adriana ddiolch i Dr Tranter am ei chyflwyno i’r Gystadlauaeth Ysgolion Columban, ac  Mrs Maldoom am ei chefnogi wrth iddi ddatblygu ei thraethawd.

Mae hi hefyd yn ddiolchgar i Mrs Cummins am gynorthwyo ei mam gyda dogfennaeth y Swyddfa Gartref, gan gynnig arweiniad, gofal a chefnogaeth a helpodd ei theulu i lywio drwy’r heriau sy’n aml yn rhan o brofiad ffoaduriaid mewn gwlad newydd.

Yng Ngholeg Dewi Sant, mae cefnogi’r rhai sy’n ceisio diogelwch yn rhan hir-dymor o’n hymrwymiad ni i’r gymuned ehangach.

Rydym yn falch i fod yn Goleg Noddfa, yn cydnabod ein hymrwymiad i wneud lle croesawgar, yn cynnig perthyn a dealltwriaeth i’r rheiny sy’n ceisio lloches.

Mae myfyrwyr hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau Wythnos Ffoaduriaid, gan gynnwys Taith Gerdded y Pererin, mentrau codi arian, a pharatoi nwyddau sylfaenol i Ganolfan y Drindod rannu  â’r anghennus.

Byw Dysgeidiaeth Gymdeithasol Catholig drwy ei Gweithredoedd

Yn ogystal â’i llwyddiant yng Nghystadleuaeth Ysgolion y Columban, mae Adriana’n byw gwerthoedd Dysgeidiaeth Gymdeithasol Catholig drwy ei gweithredoedd cymdeithasol.

Cymerodd hi ran yng ngweithgareddau Wythnos Ffoaduriaid y llynedd ac mae hi hefyd wedi cefnogi ymgyrch Tocyn Teg Dinasyddion y DU, gan arddangos ei hymrwymiad at gyfiawnder, cydsefyll a’r lles cyffredin.

Wrth adlewyrchu ar ei siwrnai, ysgrifennodd Adriana am bŵer gobaith a dewis:

“Wnes i ddim dewis i fod yn ffoadur. Ond dewisais i sut i ymateb…gan astudio’n ddyfal, helpu eraill, a defnyddio fy llais i atgoffa pobl nad problemau ydyn ni i’w datrys, ond pobl gyda storiau, breuddwydion ac urddas. Mae fy siwrnai o El Salvador i’r DU wedi fy nysgu i bod gobaith yn gryfach nac ofn, a’r ymateb iawn i ddiodddefaint yw cariad, bob tro.”

St David's Students marketing World Refugee Day

Camp ysbrydoledig

Mae llwyddiant Adriana yng Nghystadleuaeth Ysgolion y Columban yn tynnu sylw at yr effaith gall pobl ifanc eu cael pan gânt eu harwain gan egwyddorion Dysgeidiaeth Gymdeithasol Catholig. Drwy rannu ei phrofiad fel ffoadur, mae hi wedi atgoffa eraill o bwysigrwydd trugaredd, urddas a chydsefyll.

Mae’r coleg yn llongyfarch Adriana yn gynnes iawn ar ei llwyddiant cenedlaethol.