Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC Diploma (Dwbl)
Cyfwerth â
2 Lefel A neu Cyfwerth
Cymhwyster
Diploma BTEC Lefel 3
Bwrdd Arholi
BTEC Pearson
Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC (Diploma) Lefel 3
Mae BTEC Lefel 3 (Diploma) Gwyddoniaeth Gymhwysol yn gwrs dwy flynedd. Ar ôl y flwyddyn gyntaf, mae myfyrwyr yn derbyn Tystysgrif Estynedig, sy’n cyfateb i 1 Lefel A. Mae’r cymhwyster hwn yn arwain at Ddiploma llawn yn yr ail flwyddyn, sy’n cyfateb i 2 Lefel A. Mae’r cwrs yn cynnwys 10 gwers yr wythnos ar gyfer y cwrs hwn.
Bydd dysgwyr yn caffael ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan eu paratoi ar gyfer Addysg Uwch a chyflogaeth yn y dyfodol. Byddant yn ennill gwybodaeth am sgiliau labordy cyffredinol, gweithdrefnau ymchwil, a phynciau gwyddonol penodol.
Caiff y cwrs hwn ei asesu trwy gymysgedd o arholiadau, tasgau wedi amseru, ac aseiniadau.
Tystysgrif Estynedig (Blwyddyn 1)
Uned 1- Egwyddorion a Defnydd o Wyddoniaeth I
Arholiad ysgrifenedig mewn 3 adran (A, B & C) sy’n cael ei asesu’n allanol – 30 marc ar gyfer pob adran.
Adran A – Cemeg (40 munud)
Adran B – Bioleg (40 munud)
Adran C – Ffiseg (40 munud)
Mae’r papur yn cynnwys cwestiynau amlddewis, cyfrifiadau, cwestiynau atebion byr, a chwestiynau agored.
Uned 2 – Technegau Ymarferol Gwyddonol
Yn seiliedig ar aseiniadau a asesir yn fewnol
Nod Dysgu A – Cynnal titradiad a chalorimedr er mwyn pennu crynodiad y toddiad
Nod Dysgu B – Cynnal calorimedr er mwyn astudio cromliniau oeri
Nod Dysgu C – Cynnal technegau cromatograffig i nodi’r cyfansoddion mewn cymysgeddau
Nod Dysgu D – Adolygu’ch datblygiad personol mewn sgiliau gwyddonol ar gyfer gwaith labordy
Uned 3 – Sgiliau Ymchwiliol mewn Gwyddoniaeth
Tasg wedi’i hasesu’n allanol. Bydd dysgwyr yn ymdrin â’r holl gamau ymchwilio, ynghyd â’r sgiliau fydd angen er mwyn cynllunio, casglu data, dehongli’r canlyniadau, dod i gasgliad, a gwerthuso.
Tasg ysgrifenedig wedi’i hasesu mewn un sesiwn dan oruchwyliaeth, sydd werth 60 marc. Er mwyn cwblhau’r dasg, bydd angen i’r myfyrwyr gasglu data.
Uned 9 – Rheoli ac Atgenhedlu Dynol
Yn seiliedig ar aseiniadau a asesir yn fewnol
Mae’r uned hon yn darparu i’r dysgwyr y ddealltwriaeth o sut y caiff amgylchedd mewnol y corff ei rheoli o fewn paramedrau neilltuol sy’n galluogi prosesau allweddol y corff.
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy i ddysgwyr a fydd yn sail gadarn ar gyfer Addysg Uwch a chyflogaeth yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr wedi ennill gwybodaeth weithredol dda o sgiliau labordy cyffredinol a gweithdrefnau ymchwil yn ogystal â’r pynciau gwyddonol penodol.
5 gradd C TGAU, neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol, gan gynnxfwys gradd CC yn TGAU Gwyddoniaeth, gradd C yn TGAU Mathemateg neu Rifedd, a gradd C yn TGAU Saesneg*
Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.
Mae o leiaf D yn TGAU Saesneg yn ofynnol. Gellir defnyddio gradd CC yn TGAU Gwyddoniaeth Gymwysedig yn lle TGAU Gwyddoniaeth.