Busnes
Cymhwyster
UG & U
Canlyniadau
Gradd A* - C: 74.3%
Bwrdd Arholi
CBAC
Trosolwg o’r Cwrs
Lefel UG (blwyddyn 1)
Uned 1: Cyfleoedd Busnes (arholiad ysgrifenedig)
Mae’r uned hon yn ffocysu ar sefydlu busnesau newydd, mentrau bach a chanolig eu maint (SMEs). Mae’r cynnwys wedi’i seilio ar y syniad o ddechrau busnes o’r newydd a’r problemau sy’n cydfynd a’r broses o gynllunio busnes newydd.
Uned 2 – Swyddogaethau Busnes (arholiad ysgrifenedig)
Mae’r uned hon yn lledaenu’r cyd-destun i ddysgwyr a bydd yn cynnwys bob mathau o fudiadau busnes, o fusnesau bach newydd i gwmnïau rhyngwladol sefydledig. Bydd angen i ddysgwyr deall er mwyn llwyddo mewn marchnad gystadleuol dros ben, bydd rhaid i bob busnes ystyried swyddogaethau craidd busnes.
Safon Uwch (blwyddyn 2)
Uned 3 – Strategaeth a Dadansoddi Busnes (arholiad ysgrifenedig)
Pwyslais yr uned hon yw ar y ddealltwriaeth a defnydd o dechnegau dadansoddol a datblygu strategaethau busnes priodol. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau dadansoddol i ymchwilio cyfleoedd a phroblemau busnes mewn cyd destunau amrywiol, a gwerthuso data meintiol ac ansoddol er mwyn awgrymu ymatebion strategaeth oddi wrth busnesau.
Uned 4 – Busnes mewn byd sy’n newid (arholiad ysgrifenedig)
Mae’r uned hon yn ffocysu ar sut mae busnesau’n addasu er mwyn llwyddo mewn amgylchedd allanol deinamig.Rhaid i ddysgwyr deall fod y byd busnes byth yn segur ac mae pob amser cyfleoedd a bygythiadau i fusnesau o bob math. Rhaid i ddysgwyr deall, heb ots am eu maint, bod busnesau nawr yn gweithredu mewn marchnad ryngwladol ac mae rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau sy’n effeithio ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, sut maent yn gwneud penderfyniadau a strategaeth.
Mae’r cymhwyster Safon Uwch mewn Busnes yn cynnig sylfaen i fyfyrwyr sydd eisiau parhau gyda’u hastudiaethau Addysg Uwch mewn pynciau megis Y Gyfraith, Rheoli Busnes, Marchnata, Cyfrifeg, Cyllido a Bancio.
Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.